
Blog byw: Dydd Mercher ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
Croeso i flog byw yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher.
Crynodeb
16:00
Meleri Wyn James o Aberystwyth yn ennill y Fedal Ryddiaith
14:29
Alison Cairns yw dysgwr y flwyddyn
13:17
Sefydlu Cronfa Llŷr er cof am Dr Llŷr Roberts
12:51
Y Prif Weinidog 'ddim yn bwriadu sefyll eto'
11:20
Ciwio i Maes B yn ‘normal’ meddai’r Eisteddfod
10:41
Cyrffyw ar Faes Carafanau yr Eisteddfod i bawb o dan 16 oed
10:26
Dyn ifanc wedi ei arestio am fod â cyffuriau wrth fynediad Faes B
09:48
S4C ‘ddim am ymddiheuro’ am ddefnydd o Saesneg ar raglenni
16:00
Meleri Wyn James o Aberystwyth yn ennill y Fedal Ryddiaith

Meleri Wyn James o Aberystwyth sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith eleni, mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 o ymgeiswyr.
Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Porth’.
Y beirniaid oedd Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas.
"Dyma stori sy’n cydio o’r dechrau gan adeiladu at uchafbwynt dramatig," meddai'r beirniaid.
Darllenwch fwy o'r hanes fan hyn.
14:44
Brwydr y Bandiau wedi dechrau

Mae Brwydr y Bandiau wedi dechrau ac Alis Glyn yr artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi meddiannu Prif Lwyfan y Maes, gyda thorf o rai cannoedd yn ei gwylio.
Bydd Francis Rees o Dywyn, Moss Carpet o Gaernarfon a Tew Tew Tennau y band ifanc o Ddinbych yn ei dilyn.
14:29
Alison Cairns yw dysgwr y flwyddyn

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Alison Cairns o Lannerchymedd. Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.
Cafodd 29 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r beirniaid oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Tudur Owen. Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Yn wreiddiol o’r Alban mae Alison Cairns yn byw yn Ynys Môn erbyn hyn ac yn fam i saith o blant, ac yn byw ei bywyd yn y Gymraeg. Dechreuodd ddysgu ein hiaith drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac mae’n siarad yn hyderus, a hynny heb iddi gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed.
Cymraeg yw iaith y teulu, ac mae Alison, sy’n gweithio ym myd gofal, yn sylweddoli pa mor werthfawr yw defnyddio ein hiaith wrth ddelio gyda chleifion. Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi’n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd. Bydd Alison a’i phartner, Siôn yn priodi yn yr hydref.
Cyhoeddwyd hyn ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, ddydd Mercher 9 Awst, a derbyniodd Alison Dlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli. Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r wobr yma hefyd yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.
Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.
13:58
Rali Cymdeithas yr Iaith ar y Maes

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth ar y Maes.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi ‘Seminar Rhyngwladol’ i drafod yr argyfwng tai.
Ymysg y siaradwyr gwadd i’r seminar bydd cyn-Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona, Javier Burón.
“Dylai gweledigaeth ac uchelgais dinas Barcelona fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i Lywodraeth Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru," meddai.
13:37
Mae Sioe Cyw wedi dechrau ar y Brif Lwyfan

Mae'r tywydd ychydig yn llwydaidd ond mae cyflwynwyr Cyw bob tro'n barod i godi hwyliau plant Cymru.
13:17
Sefydlu Cronfa Llŷr er cof am Dr Llŷr Roberts

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu Cronfa Llŷr er cof am Dr Llŷr Roberts a fu farw ym mis Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.
Mae'r gronfa wedi ei sefydlu mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor.
Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gefnogi myfyrwyr addysg uwch gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Meddai chwaer Llŷr, Lowri Gwyn: “Fel teulu dymunwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am sefydlu cronfa i gofio Llŷr.
“Roedd Llŷr yn fab, brawd ac yncl annwyl ac arbennig iawn. Mae’n gysur gwybod bod ei gydweithwyr, ei fyfyrwyr a’i ffrindiau hefyd yn meddwl y byd ohono.”
Yn ôl Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg oedd wedi cydweithio gyda Llŷr am dros ddegawd.
"Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i’w gydweithwyr ac i’w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl," meddai.
"O fewn cymuned y Coleg roedd y newyddion am ei farwolaeth sydyn yn anodd iawn i'w ddirnad; mae nifer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr ond mae sefydlu’r gronfa hon yn rhoi cyfle i ni sianelu’r golled honno i rywbeth cadarnhaol fydd yn cefnogi myfyrwyr – dwi’n ffyddiog y byddai Llŷr wedi bod yn falch o hynny.
“Ryn ni’n ddyledus iawn i deulu Llŷr am eu cefnogaeth tuag at y Coleg ar adeg mor anodd a hefyd i Brifysgol Bangor a’r Eisteddfod Genedlaethol sydd hefyd wedi colli ffrind a chydweithiwr annwyl iawn.”
13:02
O Missouri i Foduan i weld teulu yn perfformio
🎉 "Ma’i ‘di gwirioni’n llwyr, ma’i wrth ei bodd achos mai’n licio gweld yr holl Gymraeg."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) August 9, 2023
Mae Louann Newton yn byw yn Missouri yn America, ond ddydd Mercher, bydd ym Moduan er mwyn gweld ei chyfneither, Tami, yn perfformio. pic.twitter.com/LqoZ8HxPf0
Mae Louann Newton yn byw yn Missouri yn America, ond ddydd Mercher, bydd ym Moduan er mwyn gweld ei chyfneither, Tami, yn perfformio.
Bydd Louann Newton yn y pafiliwn er mwyn gweld Tami, sydd yn 17 oed ac yn byw ym Mae Colwyn, yn cystadlu gyda Chôr Iau Ysgol Glanaethwy.
“Mae’n hyfryd ei gweld hi’n canu. Dwi’n hanner Cymraes felly mae cael fy magu gyda fy Mam a fy Nain yn siarad Cymraeg, mae o ynddo i. Efallai nad oes llawer o Gymraeg yn fy mhen ond mae yn fy nghalon," meddai.
“Dwi jyst yn caru ei gweld hi fyny ar y llwyfan, bechod fysa hi ddim yn y rhes flaen ond mae hi’n dalach!"
Darllenwch yr hanes fan hyn.
12:55
Tri sydd wedi dod i Gymru o dramor i ddysgu Cymraeg
"Bob tro dwi'n siarad Cymraeg, dwi'n teimlo 'mod i'n cadw mewn cysylltiad efo cyn-deidiau a dwi'n teimlo'n dda."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) August 9, 2023
🏴 Sgwrs gyda thri sydd wedi dod i Gymru o dramor i ddysgu Cymraeg. pic.twitter.com/SdoVR1dl9a
Mae tri wedi ymweld a'r Maes sydd wedi dod i Gymru o dramor i ddysgu Cymraeg sef Daniela Schlick o'r Almaen, Manuel Austin o Batagonia a Coco Bourret o Ffrainc.
Penderfynodd Manuel ddechrau dysgu Cymraeg tua 10 mlynedd yn ôl, a hynny oherwydd bod ganddo wreiddiau Cymreig.
"Dwi'n byw yn Y Wladfa, dod o Batagonia a ma' 'na lot o bobl sy'n siarad Cymraeg yna a dwi'n dod o deulu Cymraeg ochr tad fi ag o'n i isio siarad iaith fy nhaid - sef Cymraeg - a dyna pam o'n i'n dechra dysgu a trio siarad Cymraeg," meddai.
Darllenwch weddill eu hanes yma.
12:51
Y Prif Weinidog 'ddim yn bwriadu sefyll eto'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford ar y Maes ym Moduan heddiw.
Bu'n cael ei holi gan y Llwydd Elin Jones ym Mhabell y Cymdeithasau am 11.30 a mae wedi bod yn teithio o amgylch stondinau eraill ers hynny.
Yn ystod y sgwrs dywedodd nad oedd yn bwriadu sefyll yn etholiad Senedd 2026.
“Dydw i ddim yn mynd i fod yn Aelod o’r Senedd ar ôl 2026, ond dydw i ddim yn mynd i sefyll mas o’r ddadl am ddyfodol Cymru a phopeth sy’n mynd o gwmpas y Senedd,” meddai.
Bydd yn cymryd rhan mewn sgwrs ym mhabell Maes D am 16.00.
Mor braf i fod nol yn @eisteddfod Pen Llyn heddiw!
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) August 9, 2023
Diwrnod prysur o ‘mlaen, ond dwi'n edrych mlaen i grwydro'r maes ac i gwrdd a chi gyd yma.
If you’re in the area, I encourage you to pay this special festival a visit - mi fydd hi'n Eisteddfod i'w chofio! pic.twitter.com/XvPMsz667J
12:36
Sut mae'r tywydd ym Moduan heddiw?
Mae wedi cymylu ryw ychydig ym Moduan a mae yna ambell i ddropyn o law, ond dylai yr haul ddod i'r golwg eto erbyn diwedd y prynhawn.
Sych ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan ond a fydd yr haul yn ymddangos heddiw?🌥 Dyma'r manylion gyda Megan.@eisteddfod #eisteddfodgenedlaethol #llynaceifioyndd pic.twitter.com/IQFkey6Rbt
— S4C Tywydd (@S4Ctywydd) August 9, 2023
12:30
Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu 40 mlynedd

Dysgwr y Flwyddyn yw un o brif seremonïau’r wythnos, ac mae’n gyfle i Gymru ddathlu cyfraniad ac ymroddiad y rheini sy’n dysgu Cymraeg.
Ers sefydlu’r gystadleuaeth yn 1983, mae pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi’u clodfori, gydag amryw o enwau cyfarwydd ymhlith yr enillwyr.
Un ohonynt yw Spencer Harris o Goedpoeth ger Wrecsam, a enillodd yn 2001.
Darllenwch ei stori fan hyn.
12:09
Amser cinio ar y Maes
Mae'n amser cinio ar faes yr Eisteddfod a miloedd wedi heidio draw i'r ardal fwyta i gael eu diddanu gan Gôr Dre.


11:34
Dewch i nabod ymgeiswyr Dysgwyr y Flwyddyn

Bydd Seremoni Dysgwr y Flwyddyn yn y Pafiliwn Mawr am 15.00.
Dewch i nabod y pedwar fan hyn:
11:20
Ciwio i Maes B yn ‘normal’ meddai’r Eisteddfod
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud ei fod yn “normal” wedi i bobol ifanc wynebu ciwio am dair i bedair awr i mewn i Faes B ddydd Mawrth.
Dywedodd Betsan Moses fod “ciwio o dair i bedwar awr yn rhywbeth normal sy’n digwydd mewn digwyddiadau o’r fath”.
Daw wedi i 2,000 o bobol ifanc gyrraedd Maes B ar y nos Fawrth pan agorodd y maes.
10:41
Cyrffyw ar Faes Carafanau yr Eisteddfod i bawb o dan 16 oed

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyflwyno cyrffyw ar y Maes Carafanau i bawb dan 16 oed.
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod nhw'n ymateb i bryderon pobl ar y maes carafanau.
Mewn datganiad at bresylwyr y maes carafanau dyma nhw'n dweud:
"Da ni wedi derbyn nifer o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y maes carafanau dros y nosweithiau diwethaf."
Darllenwch fwy o'r stori fan hyn.
10:26
Dyn ifanc wedi ei arestio am fod â cyffuriau wrth fynediad Faes B
Mae dyn wedi cael ei arestio am fod â cyffuriau yn ei feddiant ar Faes B yr Eisteddfod Genedlaethol, meddai'r heddlu.
Dywedodd yr heddlu ei fod yn 18 oed ac o ochrau Bangor.
Dywedodd yr Arolygydd Darren Kane bod "swm sylweddol" o gyffuriau wedi eu "seizio" wrth fynediad Maes B.
Darllenwch y stori yn llawn fan hyn.
09:48
S4C ‘ddim am ymddiheuro’ am ddefnydd o Saesneg ar raglenni
Mae S4C wedi dweud na fydd y sianel ‘yn ymddiheuro’ am ddefnydd o’r Saesneg ar raglenni wrth geisio denu cynulleidfaoedd newydd.
Wrth siarad ae faes yr Eisteddfod, dywedodd Sara Peacock, arweinydd strategaeth Gymraeg S4C: “Mae’n bwysig i ni fod Cymru gyfan yn cael ei weld a’i chlywed ar S4C.
“Ni’n trio’n galed i sicrhau bod bob math o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn y wlad yn cael ei weld yn ein rhaglenni ni, mewn un ffordd neu’r llall."
Darllenwch fwy fan hyn.
09:41
A fydd teilyngod ar gyfer y Fedal Ryddiaith eleni?

Y Fedal Ryddiaith yw seremoni fawr y dydd. Rhaid i bawb fod yn eu seddau yn y Pafiliwn Mawr erbyn 16.15.
Bydd yr enillydd, os oes un, yn cael Y Fedal Ryddiaith a £750 am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Porth.
Menna Baines, Lleucu Roberts a Ion Thomas yw’r beirniaid.
Y tro diwethaf nad oedd teilyngdod am y Fedal oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012 a cyn hynny rhaid mynd yn ôl i Fro Dinefwr yn 1996 - felly gobeithio y bydd rhywun yn sefyll ar ei draed heddiw!
09:39
Dawnsio disgo yn y Pafiliwn Bach

Mae cystadleuaeth dawnsio disgo, hip-hop neu stryd wedi bod yn mynd rhagddo yn y Pafiliwn Bach ers 10.00.
Bydd dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol yn dilyn am 11.00 - tipyn o newid cywair!
08:49
Stori Sioned Erin Hughes am ennill y Fedal Ryddiaith

Mae'n ddiwrnod gwobrwyo y Fedal Ryddiaith.
Fe gafodd ennill y Fedal y llynedd gryn effaith ar fywyd Sioned Erin Hughes o Foduan oedd yn dweud fod trafod ei hiechyd meddwl ar ôl y seremoni wedi "cyffwrdd efo gymaint o bobol".
Darllenwch ei stori yn llawn fan hyn.
❤️ 'Mae'n golygu gymaint i fi wan pan 'ma pobl yn bod mor agored efo fi.'
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) August 6, 2023
Flwyddyn ar ôl ennill y Fedal Ryddiaith mae Sioned Erin Hughes yn falch ei bod hi wedi siarad mor agored am ei hiechyd meddwl. pic.twitter.com/bBEuhnMGBI
08:37
YesCymru yn trafod ar y Maes

Mae YesCymru yn lansio ysgoloriaeth Eddie Butler er cof am y sylwebydd rygbi ym mhabell Cymdeithasau 2 ar hyn o bryd.
Y nod medden nhw yw "annog a chefnogi y genhedlaeth nesaf o areithwyr a siaradwyr cyhoeddus yng Nghymru".
08:27
Pwy fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau heddiw?
Dyma'r pedwar band a fydd yn cystadlu ym mrwydr y bandiau heddiw.
Bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 3.30pm ar Brif Lwyfan y Maes.

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae “wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol.”
Dywedodd: “Dwi’n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y ‘Steddfod a gwrando ar y tri artist arall”. Mae’n hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel - Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a The Beatles.”
Amser: 15.30.

Dyma’r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, ac yn un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig ac mae’n disgrifio’r gymuned mae’r prosiect yma wedi’i greu fel “un sy’n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd.”
Mae’n disgrifio ei cherddoriaeth fel “dream pop, ond dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl Eurovision eleni!”
Amser: 15.50

Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres ac mae’n hoff o “arbrofi gyda gwahanol dechnegau a gweld sut mae’n mynd! Y canlyniad yw cymysgedd o weadau sonig…”
Mae wedi bod yn creu cerddoriaeth am bum mlynedd, “ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau [fy ngherddoriaeth].”
Amser: 16.30

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych ac yn ôl Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mae “Brwydr y Bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, ‘da ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl.”
Maent yn gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae.
Amser: 17.10
08:07
Croeso i'r ffrwd byw
Mae'n addo bod yn ddydd Mercher prysur ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Prif seremoni y dydd fydd Seremoni’r Fedal Ryddiaith am 16.30 a bydd Seremoni Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn y Pafiliwn Mawr am 15.00.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd yn ymweld â’r maes ac yn cymryd rhan mewn sgwrs ym mhabell y Cymdeithasau am 11.30 gyda Llywydd y Senedd, Elin Jones.
Bydd Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau hefyd ar Brif Lwyfan y Maes o 3pm ymlaen.