Strôc: 'Croesawu' cynllun i ymateb yn fwy sydyn i alwadau 999
Mae elusen yn croesawu cynlluniau newydd i ymateb yn fwy sydyn i alwadau 999 ar gyfer dioddefwyr strôc, ond yn pryderu na fydd ambiwlansys yn cyrraedd yn ddigon cyflym.
Dywedodd Llinos Wyn Parry, arweinydd ymgysylltu Cymru y Gymdeithas Strôc wrth Newyddion S4C bod amser yn "hanfodol" wrth ymateb i berson sydd yn dioddef strôc.
Daw ei sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi newidiadau i'r ffordd y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymateb i alwadau am bobl sy’n dioddef strôc neu gyflyrau difrifol eraill fel trawiadau ar y galon.
Dan y newidiadau bydd categori newydd ‘oren: sensitif o ran amser’ yn cael ei gyflwyno er mwyn blaenoriaethu cleifion strôc.
Bydd unrhyw alwadau tebyg i strôc ond sydd ddim mor ddifrifol, yn cael eu categoreiddio fel 'melyn: asesu ac ymateb' a 'gwyrdd: ymateb wedi'i gynllunio'.
Roedd adroddiad ym mis Mawrth eleni wedi canfod bod y targed presennol o ymateb i 65% o alwadau coch - y rhai mwyaf difrifol - o fewn wyth munud heb ei gyrraedd ers dros bedair blynedd.
Er bod Ms Parry yn croesawu'r cynllun, "mater o amser" ydy hi i weld os yw'n gweithio'n ymarferol.
“‘Da ni’n falch iawn o’r newidiadau, ma’n gwneud dipyn mwy o synnwyr cael categori pwrpasol ar gyfer unigolion sy’n mynd i’r ysbyty ar gyfer strôc," meddai.
“Mae’n hollol hanfodol bod yr amser ymateb yn sydyn. Y cyflymaf y mae rhywun yn cael triniaeth strôc, mwya'n byd yr ymennydd sy’n cael eu hachub.
“Mae'r amseroedd aros yn bryder ond hefyd ma'n anodd deud.
“Mi fysa ni’n gobeithio y bysa hyn yn gwthio unigolion sydd wedi cael strôc i gael ambiwlans yn gynt, cael eu hasesu yn gynt a cael triniaeth yn gynt.
“Ond dwi’n meddwl mater o amser ydy o, a newn ni weld be neith digwydd o ran yr amser ma' ambiwlansys yn cymryd i allu cyrraedd unigolion.
“Mae’n broblem fawr a dwi’n meddwl mater o amser ydy o."
'Pob munud yn cyfri'
Ar hyn o bryd, mae unigolion sydd wedi cael strôc neu STEMI, sef math o drawiad ar y galon, wedi’u cynnwys yn y categori eang ‘ambr’ gyda llawer o achosion eraill.
Mae 70% o holl alwadau 999 i'r gwasanaeth ambiwlans yn dod dan y categori yma, sydd yn cael ei ddisodli gan y categorïau newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd disgwyl i'r newidiadau ddod i rym cyn y gaeaf.
Ymateb yn sydyn yw'r cyngor i unrhyw un sydd yn gweld person yn dioddef arwyddion o strôc.
Pob munud mae 1.9 miliwn o gelloedd yr ymennydd yn cael eu colli.
Gyda phob eiliad sy'n mynd heibio heb ymateb, mae'n fwy tebygol bydd dioddefwyr strôc yn marw neu yn datblygu anabledd.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles yn dweud bod y newidiadau yn helpu sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y driniaeth gywir.
"Mae pob munud yn cyfri os ydyn ni am achub bywydau a lleihau neu atal anabledd," meddai.
“Fe fydd yn helpu ein gwasanaeth ambiwlans i adnabod yn gyflym gyflyrau sy’n sensitif o ran amser fel strôc a sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth arbenigol gywir yn gyflymach.
“Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl sy’n dioddef strôc yn cael yr ymateb cyflym ac wedi’i deilwra sydd ei angen arnyn nhw i oroesi, gwella a chryfhau wedi hynny.”
'Trawsnewid gofal strôc'
Mae camau eraill yn cael eu cymryd er mwyn bod o gymorth i ddioddefwyr strôc hefyd.
Un o'r newidiadau eraill ydy cynllun brysbennu (triage) drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty, a fydd yn cael ei dreialu mewn pum gwasanaeth strôc yng Nghymru gyda chymorth y gwasanaeth ambiwlans.
Byddai hyn yn galluogi clinigwyr sy'n darparu gofal yn yr ambiwlans cyn cyrraedd yr ysbyty i gyfathrebu mewn yn y fan a'r lle, er mwyn gwella asesiadau a diagnosis o strôc.
Mae canfyddiadau cynnar yn dangos ei fod yn gwella gwybodaeth cyn cyrraedd ar gyfer timau ysbytai.
Dywedodd Dr Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru: “Pan mae claf yn cael strôc, mae’n hanfodol ei fod yn cael triniaeth gyflym ac ar frys gan fod pob eiliad yn cyfri.
“Mae’r newidiadau i’r categorïau yn gamau pwysig tuag at fodel wedi’i drawsnewid ar gyfer gofal strôc yng Nghymru.
"Bydd hyn yn gwella’r llwybr strôc gan arwain at fwy o gleifion yn cael triniaethau sy’n newid bywyd yn brydlon."