Gwyliau'r haf: Rhieni Cymru yn wynebu'r costau gofal plant drytaf ym Mhrydain

Plant ar wyliau'r haf

Mae rhieni yng Nghymru yn talu mwy am ofal plant dros wyliau'r haf na rhieni gweddill Prydain, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae adroddiad gan elusen gofal plant a theulu Coram yn dangos fod teuluoedd ar draws y DU yn talu £1,076 ar gyfartaledd dros chwe wythnos gwyliau’r haf, sydd yn gynnydd o 4% ar y llynedd.

Mae’r ymchwil, sydd yn seiliedig ar arolygon gan awdurdodau lleol yn Lloegr, Yr Alban a Chymru rhwng Ebrill a Mehefin, yn awgrymu fod costau clwb gofal plant dros y gwyliau wedi cynyddu i £179 yr wythnos.

Roedd y gost ar ei uchaf yng Nghymru, gyda rhieni yn talu cyfartaledd o £210 yr wythnos.

Y cyfartaledd ar draws Lloegr oedd £178, a £168 yn Yr Alban.

Dywedodd Lydia Hodges, pennaeth gofal plant a theulu Coram, said: “Nid yw'r angen am ofal plant yn dod i ben ar ddiwedd tymor.

"Mae gofal plant yn ystod y gwyliau yn galluogi rhieni i weithio ac yn rhoi cyfle i blant i gael hwyl, gwneud ffrindiau ac aros yn actif yn ystod gwyliau'r ysgol.

"Mae argaeledd gofal plant yn ystod y gwyliau yn broblem barhaus a heb ddarlun pendant ynglŷn â'r ddarpariaeth sydd ar gael ym mhob rhanbarth, ni allwn fod yn sicr nad yw plant - yn enwedig rhai sydd ag anghenion addysgiadol arbennig neu anableddau - dan anfantais."

'Heriol'

Wrth ymateb i'r ymchwil, mae cynghorau wedi dweud wrth yr elusen ddiffyg llefydd gofal plant, yn enwedig i blant sydd ag anghenion addysgiadol arbennig neu anableddau.

Dywedodd Arooj Shah, cadeirydd bwrdd plant a phobl ifanc Cymdeithas Llywodraeth Leol (CLL), sydd yn cynrychioli awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr: “Er bod cynghorau’n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gael i blant ag anghenion addysgiadol arbennig neu anableddau, gall fod yn anodd sicrhau bod y ddarpariaeth gywir ar gael.

"Yn enwedig o ystyried y sefyllfa heriol y mae llawer o ddarparwyr yn ei hwynebu ar hyn o bryd.

“Mae cynghorau’n gweithio’n agos gyda darparwyr i wella mynediad at ddarpariaeth gofal plant yn ystod y gwyliau i blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau ond heb fuddsoddiad a recriwtio staff o safon bydd hyn yn anodd ei gyflawni.”

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gan Lywodraeth Cymru ddau gynllun gofal plant ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed.

O dan y Cynnig Gofal Plant allanol, gall rhieni a gwarcheidwaid plant tair a phedair oed hawlio hyd at 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf penodol.

Yr ail yw Cynllun Dechrau'n Deg, sy'n darparu 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed mewn ardaloedd cymwys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.