'Ofnadwy o agos': Dim Jac Morgan yn nhîm y Llewod ar gyfer y gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia
Mae Jac Morgan wedi ei adael allan o dîm y Llewod ar gyfer eu gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Dywedodd y prif hyfforddwr Andy Farrell ei fod yn "ofnadwy o agos" at gael ei gynnwys wrth gyhoeddi'r tîm fore ddydd Iau.
Mae Tom Curry wedi ennill y frwydr am y crys rhif saith, gan olygu nad oes lle ar gyfer Morgan na chwaith Josh van der Flier. Mae Ben Earl ar y fainc.
Dyma'r tro cyntaf i'r Llewod enwi tîm yn erbyn Awstralia, Seland Newydd neu Dde Affrica heb Gymro ynddo ers 1896.
Mae gan Iwerddon wyth chwaraewr yn cychwyn a thri arall ar y fainc. Mae gan Loegr bedwar chwaraewr yn cychwyn, gyda phump arall ymhlith yr eilyddion.
Wrth drafod ei benderfyniad dywedodd y prif hyfforddwr Andy Farrell: “Dyna’r rhan o’r garfan sydd wedi bod yn destun cystadlu brwd a thrafodaethau brwd ers cryn amser.
"Roedd hynny'n briodol o ystyried yr ansawdd sydd gennym ni yno.
"Rydyn ni’n teimlo mai dyma’r cydbwysedd cywir ar gyfer y gêm brawf cyntaf.
"Mae gan Tadhg [Beirne] ansawdd yn y symudiadau sydd wedi eu cynllunio o flaen llaw ond hefyd yn ei gêm gyffredinol, wrth ddwyn y bêl.
"Mae’n ategu Jack [Conan], a Tom [Curry] yw’r injan sydd ei hangen arnoch chi mewn gemau prawf.
"Roedd Jac [Morgan] mor agos ag y gallech chi ddychmygu at gael ei hun i’r tîm.
"Rydych chi mewn gwirionedd yn teimlo’n drist iawn am chwaraewyr fel ‘na, a Josh [van der Flier] a Henry [Pollock] hefyd.
"Mae hynny’n dangos ein bod ni mewn lle da fel grŵp.”
Tîm y Llewod i wynebu Awstralia yn y gêm brawf gyntaf
15. Hugo Keenan (Leinster/Iwerddon) #881
14. Tommy Freeman (Northampton Saints/Lloegr) #858
13. Huw Jones (Glasgow Warriors/Yr Alban) #878
12. Sione Tuipulotu (Glasgow Warriors/Yr Alban) #863
11. James Lowe (Leinster/Iwerddon) #870
10. Finn Russell (Bath/Yr Alban) #835
9. Jamison Gibson-Park (Leinster/Iwerddon) #879
1. Ellis Genge (Bristol Bears/Lloegr) #859
2. Dan Sheehan (Leinster/Iwerddon) #873
3. Tadhg Furlong (Leinster/Iwerddon) #818
4. Maro Itoje (Saracens/Lloegr) (captain) #825
5. Joe McCarthy (Leinster/Iwerddon) #871
6. Tadhg Beirne (Munster/Iwerddon) #838
7. Tom Curry (Sale Sharks/Lloegr) #853
8. Jack Conan (Leinster/Iwerddon) #839
Eilyddion:
16. Ronan Kelleher (Leinster/Iwerddon) #864
17. Andrew Porter (Leinster/Iwerddon) #876
18. Will Stuart (Bath/Lloegr) #877
19. Ollie Chessum (Leicester Tigers/Lloegr) #875
20. Ben Earl (Saracens/Lloegr) #857
21. Alex Mitchell (Northampton Saints/Lloegr) #860
22. Marcus Smith (Harlequins/ Lloegr) #855
23. Bundee Aki (Connacht/Iwerddon) #837