Ymchwiliad ysbïo Tsieina: Cyn ymgynghorydd Llafur yng Nghymru ymysg tri ar fechnïaeth
Mae gŵr i AS Llafur sy'n gyn-ymgynghorydd i wleidyddion y blaid yng Nghymru – a gafodd ei arestio yng nghyd â dau o bobl eraill mewn cysylltiad i ymchwiliad sy'n ymwneud ag ysbïo ar ran Tsieina – bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae David Taylor yn ŵr i'r AS Llafur dros Ddwyrain Kilbride a Strathaven, Joani Reid.
Mae Mr Taylor a dau o bobl eraill gafodd eu harestio ddydd Iau bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu fore Iau.
Cafodd dau ohonynt eu harestio yng Nghymru.
Dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 68 oed ym Mhowys a dyn 43 oed ym Mhontyclun hefyd wedi eu harestio.
Roeddent hefyd wedi arestio dyn 39 oed mewn cyfeiriad yn Llundain.
Roedd y tri dyn wedi eu harestio ddydd Mercher ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cuddwybodaeth o dramor, yn groes i adran 3 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, 2023.
Dywedodd Heddlu'r Met mai Tsieina yw'r wlad y mae'r ymchwiliad yn ymwneud â hi.
Mae David Taylor yn gyn-ymgynghorydd gwleidyddol i Peter Hain, cyn-Ysgrifennydd Cymru, ac roedd yn ymgeisydd ar gyfer swydd Comisiynydd yr Heddlu Gogledd Cymru yn 2016.
Dywedodd yr AS Llafur Joani Reid: "Dwi erioed wedi gweld unrhyw beth sydd wedi fy ngwneud i'n amheus fod fy ngŵr i wedi torri'r gyfraith."
"Nid wyf yn rhan o weithgareddau busnes fy ngŵr ac nid wyf i na fy mhlant yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ac ni ddylem gael ein trin gan sefydliadau'r wasg fel pe baem," meddai.
'Ymyrraeth'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diogelwch, Dan Jarvis ddydd Mercher y byddai yna "oblygiadau difrifol" pe bai'n cael ei brofi fod Tsieina wedi ceisio ymyrryd â materion y DU.
Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn "ymwneud â Tsieina" a "ymyrraeth dramor yn targedu democratiaeth y DU".
Dywedodd Pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain Helen Flanagan: "Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ein gwaith yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol dros y blynyddoedd diweddar, ac rydym yn parhau i weithio yn agos iawn â'n partneriaid i gadw ein gwlad yn ddiogel."
Mae swyddogion heddlu yn parhau i chwilio yn y cyfeiriadau ble y cafodd y tri eu harestio.
Fel rhan o'rymchwiliad, mae swyddogion hefyd wedi bod yn chwilio mewn cyfeiriadau eraill, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Llundain a Dwyrain Kilbride.
Mae ymholiadau yn parhau yn ôl y llu.