Newyddion S4C

Amdanom ni

Mae gwasanaeth newyddion digidol S4C yn lais newyddion newydd i Gymru.

Ar y safle yma fe gewch chi straeon gwreiddiol ar ffurf fideo digidol gan newyddiadurwyr S4C, ac mewn partneriaeth gyda Golwg, ITV Cymru a BBC Cymru, straeon o amrywiol ffynonellau i ddod a’r gorau o newyddion yn y Gymraeg dan un to.

Mae newyddion yn hollbwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus.

Bydd y gwasanaeth yma yn dod a’r newyddion diweddaraf i chi, ble bynnag y byddwch chi, pryd bynnag fydd y straeon yn torri. Law yn llaw â rhaglenni Newyddion S4C ar deledu, mae S4C nawr yn darparu gwasanaeth newyddion cynhwysfawr ac aml-lwyfan yn y Gymraeg.

Mae amrywiaeth a phlwraliaeth wrth wraidd y gwasanaeth.

Bydd gennym straeon o bob cwr o Gymru am faterion sy’n effeithio ar eich bywyd chi a’ch cymuned. Mewn partneriaeth gyda rhai o raglenni S4C byddwn yn rhoi sylw i wleidyddiaeth, iechyd, addysg, amaeth, materion cyfoes, chwaraeon a’r tywydd. Ar y gwasanaeth yma bydd yna lwyfan i amrywiaeth o leisiau, wynebau a safbwyntiau.

NS4C. Newyddion digidol S4C. Newyddion Cymraeg yn eich poced.

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.