Newyddion S4C

O Missouri i Foduan i weld teulu yn perfformio

O Missouri i Foduan i weld teulu yn perfformio

Mae Louann Newton yn byw yn Missouri yn America, ond ddydd Mercher, bydd ym Moduan er mwyn gweld ei chyfneither, Tami, yn perfformio. 

Bydd Louann Newton yn y pafiliwn er mwyn gweld Tami, sydd yn 17 oed ac yn byw ym Mae Colwyn,  yn cystadlu gyda Chôr Iau Ysgol Glanaethwy. 

“Mae’n hyfryd ei gweld hi’n canu. Dwi’n hanner Cymraes felly mae cael fy magu gyda fy Mam a fy Nain yn siarad Cymraeg, mae o ynddo i. Efallai nad oes llawer o Gymraeg yn fy mhen ond mae yn fy nghalon," meddai.

“Dwi jyst yn caru ei gweld hi fyny ar y llwyfan, bechod fysa hi ddim yn y rhes flaen ond mae hi’n dalach!"

Roedd Mam a Nain Louann yn Gymry Cymraeg, ac mae hyn wedi dylanwadu yn gryf arni. 

Wrth siarad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher, dywedodd Louann: "Mae fy ngŵr a minnau wedi dod i ymweld â theulu o’r lle yr ydym ni’n byw yn America a daethom yn benodol ar gyfer yr Eisteddfod ac roeddem ni eisiau profi hyn eto, ac roedd mor hir oherwydd Covid, doeddem ni ddim yn gallu dod bryd hynny."

'Gwirioni'

Bydd yn brofiad bythgofiadwy i Tami ddydd Mercher hefyd wrth gael cefnogaeth arbennig yn y gynulleidfa.

"Dwi’m di gweld hi ers blynyddoedd so ma bach yn overwhelming ond dwi ‘di edrych ymlaen cael gweld hi," meddai.

"Ma’i ‘di gwirioni’n llwyr, ma’i wrth ei bodd achos mai’n licio gweld yr holl Cymraeg a ‘ballu  a mai’n licio’r cysylltiad efo’r Gymraeg."

Daeth Louann Newton i'r Eisteddfod am y tro cyntaf ym 1977 yn Wrecsam, ac mae wedi ymweld â'r Brifwyl ar dri achlysur arall. 

"Yn ’77, des i yma ac arhosais i am flwyddyn gyda fy chefnder ac roedd o’n stiward, ac fe gafodd o swydd i mi fel stiward," meddai.

"Ro’n i yn y pafiliwn mawr a bryd hynny, roedd ganddyn nhw docynnau i gael mewn a fyswn i’n mynd â phobl i’w seddi a dyna oedd fy swydd i, ac ro’n i’n ei garu, roedd o’n brofiad mor wych, roedd y flwyddyn honno, ro’n i’n gallu gweld cymaint o Gymru a chymaint o aelodau teulu.

"Roeddwn i’n gweithio ar stondin llysiau a ffrwythau gyda fy nghefnder a mynd i Chwilog, Criccieth, o gwmpas Pwllheli i gyd a Rhosfawr ac roeddwn i'n gwerthu llysiau a ffrwythau. Pa ffordd well o gyfarfod y bobl a’r diwylliant? Roedd o’n hyfryd ac dwi’n ei drysori hyd heddiw."

'Emosiynol'

Mae Ms Newton o dan deimlad yn aml wrth iddi wrando ar y Gymraeg yn cael ei chanu.

"Mae’n emosiynol iawn, pan mae’r Cymry yn canu, maen nhw’n canu o’u calonnau ac mae yna gymaint o fynegiant a symudiad – mae o’n eich cyffwrdd chi ac mae’n rhan ohona i a dyna beth sydd mor arbennig i fi i ddod i’r Eisteddfod," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.