Cyhoeddi enw dyn fu farw yn y Barri wrth i ddau gael eu holi ar amheuaeth o'i lofruddio
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw yn y Barri nos Lun, wrth i swyddogion barhau i holi dau lanc ar amheuaeth o'i lofruddio.
Roedd Kamran Aman yn 38 oed, ac yn dad i un plentyn.
Mae dau lanc 16 ac 17 oed o Lanilltud Fawr, Bro Morgannwg wedi eu harestio ac maen nhw yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Aman yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau fod person wedi ei drywanu ar Heol y Barri ychydig cyn hanner nos.
Mae ditectifs yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea, o Dîm Troseddau Mawr yr Heddlu: “Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni sefydlu’r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd nos Lun. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Kamran Aman.
"Mae cordonau heddlu a ffyrdd wedi cau yn parhau, a hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus wrth i ni symud ymlaen â’r ymchwiliad."