Pwy yw'r Cymro ifanc sydd yn actio mewn cyfres newydd am Huw Edwards?
Mae Cymro ifanc yn chwarae rhan un o brif gymeriadau cyfres newydd am gwymp y cyn-ddarlledwr Huw Edwards.
Bydd Osian Morgan yn chwarae rhan bachgen ifanc yn y gyfres ddwy ran fydd yn cael ei darlledu ar Channel 5.
Mae'r gyfres Power: The Downfall of Huw Edwards yn canolbwyntio ar "fywyd dwbl" cyn-gyflwynydd y BBC a sut y datblygodd y sgandal a ddaeth i ben pan gafodd ddedfryd o chwe mis o garchar wedi'i ohirio ym mis Gorffennaf 2024.
Roedd Huw Edwards yn o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar y teledu cyn i'w yrfa ddisglair orffen.
Y Cymro 64 oed oedd y darlledwr newyddion ar y cyflog uchaf yn y BBC cyn iddo adael y gorfforaeth.
Fe gyflwynodd News At Ten am ddegawdau cyn iddo bledio’n euog i droseddau yn cynnwys creu delweddau anweddus o blant, a bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
Martin Clunes fydd yn chwarae rhan Huw Edwards yn y gyfres, gydag Osian Morgan yn chwarae bachgen ifanc sydd yn cyfathrebu gyda Huw Edwards.
Ond pwy yw'r actor ifanc Osian Morgan?
Yn 24 oed mae Osian wedi actio mewn sawl cyfres gyfarwydd yng Nghymru ac yn Llundain.
Dechreuodd ei yrfa yn 2015 yn actio yn y theatr yn bennaf, a hynny tra ei fod yn astudio drama yn yr ysgol.
Yn 2018 fe gafodd ei gastio i chwarae cymeriad Aaron Monk ar gyfres Pobol y Cwm, ac fe ymddangosodd mewn 89 o benodau i gyd.
Yn 20 oed, fe gafodd Osian ei gastio yng nghyfres 11 o Waterloo Road gan y BBC, ac yn chwarae un o brif gymeriadau'r rhaglen, Myles Massey.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ar y pryd ei fod yn "rili rili cyffrous... ma' fe'n brofiad anhygoel."
Ers hynny mae gyrfa Osian wedi mynd o nerth i nerth.
Chwaraeodd rhan Josh Cope yng nghyfres Emmerdale ar ITV yn ystod 2024, gan ymddangos mewn 17 pennod.
Hefyd fe wnaeth ymddangos yn ffilm Mr Burton, oedd yn adrodd hanes bywyd cynnar yr actor Richard Burton o Bontrhydyfen.
Yn fwy diweddar mae wedi chwarae rôl Alfie yn y gyfres Under Salt Marsh sydd yn cael ei darlledu ar Sky.
Fe fydd Power: The Downfall of Huw Edwards yn cael ei darlledu ar 24 Mawrth.