'Cyfle prin': Cartref y Crynwr Rowland Ellis yn Nolgellau ar werth
Mae cyn gartref i un o aelodau amlycaf symudiad Y Crynwyr yng Nghymru wedi ei roi ar werth am £410,000.
Cafodd Rowland Ellis ei eni ym Mryn Mawr ger Dolgellau yn y dref yn 1650 a daeth yn aelod o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion, neu'r Crynwyr, yn yr 1670au.
Fe wnaeth ei benderfyniad dadleuol i ymuno â'r Crynwyr arwain ato'n gwrthdaro gyda'r awdurdodau lleol, ac fel sawl Crynwr arall yn yr ardal, fe wynebodd erledigaeth, dirwyon a charchar am wrthod cydymffurfio ag arferion Eglwys Loegr.
Er mwyn cael rhyddid crefyddol, fe wnaeth Ellis arwain grŵp o tua 100 o Grynwyr Cymreig ar fordaith i Pennsylvania yng Ngogledd America yn 1686.
Yno sefydlodd y grŵp ei hun ar dir a gafodd ei brynu gan arweinydd Crynwyr Lloegr, William Penn, gydag Ellis yn sefydlu fferm o'r enw Bryn Mawr ar ôl ei gartref yng Nghymru. Cafodd yr enw ei roi yn ddiweddarach i'r dref ym Mhennsylvania a'i choleg enwog.
Dychwelodd Ellis i Gymru am gyfnod byr yn 1688 cyn symud yn barhaol i Pennsylvania gyda'i deulu. Yno daeth yn rhan o'r bywyd cyhoeddus a chafodd ei ethol i Gynulliad Taleithiol Pennsylvania yn 1700, gan gynrychioli ardal Philadelphia, cyn iddo farw yn 1731.
Mae nofel Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames wedi'i hysbrydoli gan brofiad y Crynwyr yn Nolgellau yn ystod yr 17eg ganrif.
'Cartref llawn hanes'
Wrth hysbysebu'r cartref, dywedodd yr asiant Walter Lloyd Jones: "Mae Bryn Mawr yn gartref Rhestredig Gradd II trawiadol ar wahân sy'n cynnig tair ystafell wely, wedi'u hadeiladu o garreg draddodiadol o dan do llechi.
"Yn llawn hanes ac yn rhan o Lwybr y Crynwyr lleol, mae'r eiddo mewn lleoliad uchel wrth droed mynyddoedd Cader Idris ac yn cynnig golygfeydd deniadol ar draws y dref islaw."
Ychwanegodd: "Er bod y tŷ bellach angen ei adnewyddu, mae ganddo nifer o nodweddion gwreiddiol dymunol, gan gynnwys trawstiau pren agored, lleoedd tân inglenook trawiadol a lloriau llechi."
Yn dod gyda'r cartref mae gerddi 0.38 erw sy'n cynnwys lle parcio o flaen y tŷ ac adeiladau allanol.
"Mae rhoi Bryn Mawr ar y farchnad yn gyfle prin i gaffael eiddo o ddiddordeb hanesyddol lleol sylweddol, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld yn gynnar," ychwanegodd yr asiant.