Pecyn cymorth wedi i bris olew gwresogi ddyblu
Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi awgrymu ei bod yn bwriadu cynnig cymorth i aelwydydd sy’n cael trafferth talu am olew gwresogi o ganlyniad i’r argyfwng yn y Dwyrain Canol.
Dywedodd y Canghellor y byddai’n rhoi cymorth “i’r rhai sydd wir ei angen”.
Mae disgwyl i’r cynlluniau gael eu datgelu'r wythnos nesaf, wedi i’r pris fesul litr am olew gwresogi ddyblu ers dechrau’r argyfwng.
Mae rhannau helaeth o orllewin a chanolbarth Cymru yn bennaf ddibynnol ar olew gwresogi am nad ydyn nhw ar y rhwydwaith nwy.
Nid yw pris olew gwresogi wedi ei gapio gan Ofgem yn yr un modd a mathau eraill o ynni.
Mewn cyfweliad gyda The Times, awgrymodd Ms Reeves y byddai pecyn cymorth yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf.
“Rydw i wedi dod o hyd i’r arian ac rydyn ni wedi gweithio gydag ASau ac eraill ar ymateb i bobl sydd ddim yn cael eu diogelu gan gap prisiau ynni,” meddai.
“Rydyn ni’n rhoi mwy o gymorth i’r rhai sydd wir ei angen.”
Mae biliau nwy a thrydan wedi’u capio tan fis Mehefin, ond os bydd y gwrthdaro’n parhau, gallai aelwydydd wynebu codiadau mawr bryd hynny.
Mae dadansoddwyr o gwmni Cornwall Insight wedi rhagweld y gallai biliau ynni aelwydydd godi 10% - neu £160 - o fis Gorffennaf ar ôl cynnydd mawr ym mhrisiau nwy cyfanwerthu.
Byddai hynny’n golygu y byddai cap prisiau Ofgem ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi yn codi i £1,801 y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer aelwyd sy’n defnyddio nwy a thrydan.
“Mae gennyn ni beth amser,” meddai’r Canghellor wrth The Times.
“Rydyn ni’n gweithio drwy wahanol sefyllfaoedd posibl ar hyn o bryd, a dw i ddim eisiau awgrymu ein bod ni’n mynd i wneud rhywbeth pan nad ydyn ni’n gwybod eto y bydd modd ei gyflawni.
“Dw i’n bryderus o ystyried pa mor uchel yw ein dyled [cenedlaethol], y ddyled a etifeddwyd gennyn ni, ac felly dw i eisiau edrych ar ba opsiynau sydd ar gael.”