'Dim ond gyda newid gwirioneddol i gyfundrefn Iran y bydd Cwrdiaid y wlad yn rhydd'

Salah Rasool

Mae dyn Cwrdaidd sydd yn byw yng Nghymru ers dros 20 mlynedd yn dweud mai dim ond wrth gael newid gwirioneddol i'r gyfundrefn yn Iran y bydd Cwrdiaid yn y wlad yn rhydd. 

Mae Salah Raba Rasool yn 49 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ers 18 mlynedd, ac yn briod â Chymraes ac mae ganddyn nhw ddwy o ferched. 

Mae Cwrdistan yn genedl heb wladwriaeth, ac mae ei thiriogaeth yn hanesyddol wedi ei rhannu rhwng pedair gwlad yng ngorllewin Asia, sef Twrci, Syria, Irac ac Iran.

Wedi ei eni yn y 70au yn ninas Sulaymaniyah sydd yn nwyrain rhanbarth Cwrdistan yn Irac, fe gafodd Salah ei orfodi i adael ei gartref ar dri achlysur gwahanol yn ei blentyndod, y tro cyntaf fel babi ym 1975, yna yn y rhyfel Gwlff cyntaf ym 1991.

"Fe gafodd fy mhlentyndod a fy ieuenctid eu siapio gan wrthryfel," meddai wrth Newyddion S4C

Fe ddaeth y tro olaf ym 1996 pan wnaeth ffoi o drychineb y rhyfel cartref Irac-Cwrdaidd drwy gerdded ar draws fynyddoedd ar ffin Iran. 

Chwe blynedd yn ddiweddarach, fe lwyddodd i gyrraedd Cymru ar ddechrau 2003. 

'Adeiladu bywyd i fi fy hun'

Yn y pen draw, fe gyrhaeddodd dde Cymru ar ôl clywed am y gymuned Gwrdaidd oedd yn tyfu yno. 

"Dwi wedi adeiladu bywyd i fy hun ac wedi dod yn rhan o'r gymuned Gymreig," meddai.

Image
Salah
Fe ddaeth Salah i Gymru yn 2003.

Mae Salah bellach yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd lle mae'n cefnogi ffoaduriaid gyda'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu ar ddechrau bywyd newydd mewn gwlad dramor. 

Mae'r rhyfel yn ei bryderu yn fawr. 

"Mae'n ofnadwy o anodd ac mae'n amser pryderus, yn enwedig i'r rhai ohonom ni sydd â theuluoedd yn y rhanbarth, ond ar yr un pryd, mae'r Cwrdiaid yn wydn, rydym ni wedi goroesi sawl moment anodd yn ein hanes.

"Ond dwi'n ceisio aros yn ofalus otimistaidd, ond hefyd yn realistig."

'Talu'r pris'

Mae Salah mewn cyswllt â'i deulu ac mae'n adnabod nifer o Gwrdiaid Iran. 

"Mae pobl yn ofnus. Ar hyn o bryd, mae yna dronau a thaflegrau... ac mae rhai wedi glanio ddim yn rhy bell o dŷ fy mrawd... fe wnes i siarad â fy mrawd ddau ddiwrnod yn ôl ac fe ddywedodd nad oedden nhw yn gallu cysgu'r nos oherwydd sŵn y bomiau," meddai.

"Mae'r ysgolion, y prifysgolion wedi bod ar gau ers i'r gwrthdaro gynyddu felly 'dan ni'n gweld y genhedlaeth nesaf yn dystion i hyn ac yn gorfod talu'r pris.

"Mae'n eithaf trist oherwydd i'r Cwrdiaid, mae hyn yn digwydd bron bob 5, 10 mlynedd... rhywbeth yn digwydd."

Image
Mae Salah yn sylfaenydd a chyfarwyddwr Kurdish All Wales Association
Salah ydy sylfaenydd a chyfarwyddwr Kurdish All Wales Association

Y Cwrdiaid ydy'r pedwerydd grŵp ethnig mwyaf yn y Dwyrain Canol, ac mae'n nhw ar wasgar rhwng Iran, Irac, Syria a Thwrci. 

Mae ganddyn nhw hanes hir o gael eu bradu a'u herlid, gyda'r Cwrdiaid yn aml yn dweud "nad oes ganddyn nhw unrhyw ffrindiau heblaw y mynyddoedd". 

Dywedodd Salah: "Mae yna obaith ymysg nifer o Gwrdiaid, ond hefyd mae yna dipyn o ofal a diffyg ymddiriedaeth, yn benodol tuag at bwerau rhyngwladol fel UDA.

"Mae'r Cwrdiaid yn aml wedi ymladd ochr yn ochr â chynghreiriaid gorllewinol mewn gwrthdaro, gyda lluoedd Cwrdaidd yn chwarae rhan allweddol wrth drechu y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac a Syria, ac fe gafodd nifer o drefi a dinasoedd Cwrdaidd yn Irac eu rhyddhau."

'Cymhleth'

Mae nifer o grwpiau gwrthbleidiol Cwrdaidd Iranaidd yn alltud yng ngogledd Irac ar hyn o bryd. 

Er nad yw'r Cwrdiaid erioed wedi cael tiriogaeth eu hunain, maen nhw'n llywodraethu ardal lled-awtonomaidd yng ngogledd y wlad.

Mae tua 10% o boblogaeth Iran yn Gwrdiaid, sef tua naw miliwn o bobl, ac mae eu harweinwyr wedi bod yn galw ar y gymuned ryngwladol i'w cefnogi nhw a chefnogi Donald Trump.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Komala Abdullah Mohtadi: "Dydyn ni ddim yn mynd i adael y cyfle yma am newid gael ei wastraffu."

Ond fe ddywedodd Salah fod y berthynas yn un "gymhleth". 

"'Dan ni wedi gweithio yn agos gydag America a chynghreiriaid eraill y Gorllewin mewn sawl gwrthdaro ond mae yna adegau wedi bod hefyd lle mae penderfyniadau gwleidyddol, yn benodol gan Trump, wedi gwneud i gymunedau Cwrdaidd deimlo yn ynysig.

"Be dwi'n ei glywed gan arweinwyr Cwrdaidd ydi eu bod nhw'n ymdrin â'r berthynas honno gyda gofal, efallai y gwnaiff Trump gefnogi Cwrdiaid am rhan o'r gwrthryfela... ond beth sydd yn fy mhoeni ydi y gwnawn nhw ein cefnogi ni ond ddim ond am gyfnod."

'Bodoli ers cenedlaethau'

Mae Tehran wedi bod yn cynyddu ei ymosodiadau ar grwpiau Cwrdaidd Iranaidd yn Irac yn sgil adroddiadau fod yr Arlywydd Trump eisiau iddyn nhw ymuno â'r frwydr yn erbyn Iran.

Mae yna adroddiadau cynyddol fod Mr Trump eisiau i'r lluoedd Cwrdaidd ymuno â'r rhyfel, ond mae'r Tŷ Gwyn wedi gwadu fod yr Arlywydd yn ystyried eu harfogi. 

Mae'r rhyfel yn gyfle am newid i'r Cwrdiaid yn ôl Salah. 

"I bob un o'r Cwrdiaid, y freuddwyd ydy Cwrdistan a gwell annibynniaeth, dyna ydy'r freuddwyd sydd wedi bodoli ers cenedlaethau. Mae adegau o ansefydlogrwydd yn gallu arwain at gyfleoedd gwleidyddol, ond maen nhw hefyd yn dod â risgiau," meddai.

"Mae cyfundrefn Iran yn parhau yn gryf ac yn benderfynol i barhau i reoli.

"Yn y tymor byr, efallai nad yw'n realistig i sicrhau annibynniaeth, ond gobeithio yn y tymor hir, os ydy'r gyfundrefn yn mynd yn Iran, mae hynny yn beth da i ni."

'Dyfodol mwy sefydlog'

Ychwanegodd: "Beth mae'r Cwrdiaid eisiau ydi hawliau sylfaenol, cydnabyddiaeth diwylliant, y gallu i ddefnyddio ein hiaith, cynrychiolaeth wleidyddol.

"Byddai'r camau hyn yn gallu adeiladu sylfaen am ddyfodol mwy sefydlog fel sydd gennym ni yn Irac."

Mae mudiad Amnest Rhyngwladol yn dweud fod Cwrdiaid Iranaidd "wedi dioddef gwahaniaethu hirsefydlog" a bod eu "hawliau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol wedi cael eu gormesu". 

"Y gobaith ydi un diwrnod y bydd y Cwrdiaid yn gallu byw yn ein mamwlad gydag urddas a chydraddoldeb... dwi'n gobeithio y daw hynny yn wir ond mae'n dibynnu am ba mor hir y bydd y rhyfel yn para," ychwanegodd Salah Raba Rasool.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.