Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â thractor ger Llanrwst
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â thractor ger Llanrwst yn Sir Conwy ddydd Llun.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 16.00 yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad yn cynnwys beic modur a thractor ar yr A470 ym Maenan.
Roedd aelodau'r cyhoedd wedi stopio i gynorthwyo, gan gynnwys dau barafeddyg oddi ar ddyletswydd.
Er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle.
Dywedodd yr heddlu fod perthnasau agosaf y beiciwr modur a'r crwner wedi cael gwybod.
Mae'r Ditectif Gwnstabl Peter Colley o Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth.
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn," meddai.
"Mae'r ymchwiliad i sefydlu achos y gwrthdrawiad ar y gweill ac rydym yn apelio at unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â ni eto, i gysylltu â ni ar unwaith.
"Rydym hefyd yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar yr A470 tua amser y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd i gysylltu."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 25000537234.