'Un o'r pethau mwya' trist': Profiad y newyddiadurwr Dylan Jones o gyflafan Dunblane
30 mlynedd ers cyflafan Dunblane a welodd 16 disgybl ysgol a'u hathrawes yn cael eu lladd, mae'r newyddiadurwr Dylan Jones yn cofio'r hyn a welodd wrth ohebu ar achos saethu gwaethaf yn hanes Prydain.
Yn 1996, fe wnaeth Thomas Hamilton gerdded mewn i Ysgol Gynradd Dunblane gyda phedwar gwn a channoedd o fwledi.
Munudau yn ddiweddarach, roedd 16 o ddisgyblion a'u hathrawes, Gwen Mayor wedi cael eu lladd, cyn i Hamilton saethu ei hun yn farw.
Cafodd 12 o blant a thri oedolyn eu hanafu hefyd.
Roedd Dylan Jones yn newyddiadurwr ifanc gyda'r BBC ar y pryd, ac yn cofio'r diwrnod pan gafodd ei ddanfon i dref Dunblane yn yr Alban.
“Ar y bora Mercher oedd o, ag oni yn Rhiwabon yn gwneud cyfweliad i Vaughan Roderick am ddyfodol y Blaid Lafur," meddai wrth Newyddion S4C.
“Eshi nôl i’r Wyddgrug erbyn tua 10 a ffonio’r BBC yn Bangor i weld be o’n nhw isho fi neud am y diwrnod.
“A dwi’n cofio gweld ar y cyfrifiadur, ‘School shooting Scotland’ a manylion yn dod trwodd, ac oedd y golygydd newyddion wedi ffonio fi yn deud bod Caerdydd isho fi fynd i Dunblane ar gyfer y gyflafan ‘ma.
“Dwi’n cofio fi’n deutha fo nai biciad adre gynta i ‘nol dillad a petha ymolchi, a fo’n deud ‘na, ma’ rhaid ti mynd rŵan.’
“O’n i’n gwrando ar 5Live ag o’n i’n gwybod y stori erbyn cyrraedd wedyn.
“Noson hwnnw o’n i’n neud stwff i Post Prynhawn a wedyn Newyddion S4C wrth gwrs.
“A dwi’n cofio deud wrth Beti George o’dd yn cyflwyno, ‘dan ni’n trin geiriau yn ein gwaith pob dydd, ond does na’m geiriau i ddisgrifio’r hyn sydd wedi digwydd yn Dunblane’."
'Tawelwch llethol'
Dros y dyddiau nesaf fe wnaeth Dylan Jones gyfweld â Chymry oedd yn byw yn yr ardal.
Tu hwnt i'r cyfweliadau, mae'n cofio'r awyrgylch tu allan i'r ysgol ac yn y dref.
“Dwi’n cofio bod ‘na ryw dawelwch llethol yna," meddai.
“Ond hefyd oedd gen ti gontractwyr ar ochr y stryd yn trwsio’r pafin neu rywbeth felly.
“O’dd o’n hollol afreal, fel bod bywyd yn mynd yn ei flaen, o’dd o’n hollol afreal.
“Dwi’n cofio’r holl flodau oedd ‘di cael eu gosod tu allan i’r ysgol yn y dyddiau nesaf."
'Emosiynol'
Roedd gohebu ar y gyflafan yn gallu bod yn heriol i Dylan ar y pryd, meddai.
A hynny oherwydd bod ganddo blentyn oedd yr un oedran a'r rhai a gafodd eu lladd yn Dunblane.
“Oedd gennai blant ifanc ar y pryd, oedd Lois yn bump oed a Gruff yn dair. Oedd Lois yn union oed y plant a gafodd eu lladd," meddai.
“Ti’n trio bod yn broffesiynol wrth reswm a datgysylltu dy emosiwn oddi ar yr hyn sydd wedi digwydd, ond oedd o yng nghefn dy feddwl di.
“Oeddat ti’n gallu uniaethu’n llwyr hefo’r rhieni sydd wedi colli eu plant gan fod ti’n rhiant dy hun gyda phlentyn yr un oed.
“Ar y ffordd adra mae o’n dy daro di, pan mae mawredd y peth yn hitio a mae’n effeithio ti’n emosiynol heb ti ddallt."
Yn ystod ei yrfa cyn cyflafan Dunblane roedd Dylan Jones wedi gohebu ar nifer o drychinebau ar draws y DU.
Dau oedd yn aros yn y cof iddo oedd trychineb Hillsborough a llofruddiaeth James Bulger, ac roedd Dunblane hefyd yn un o'r pethau "mwya' trist" iddo ohebu arno.
“Ma’n un o’r petha’ mwya' trist dwi wedi gohebu arno fo wrth reswm," dywedodd.
“Ella 'mod i mewn sefyllfa gryfach i ddelio efo Dunblane na Hillsborough gan bo’ fi yn fwy dibrofiad pan o’n i’n darlledu o Hillsborough.
“Mae o’n un o’r storiâu mwya' wrth gwrs ma’ rywun wedi gohebu arno fo.
“Ma’ rywun wedi gwneud gymaint ar drychinebau, un ydy James Bulger a gafodd ei ladd yn Lerpwl."
'Colli plentyn'
Un fenyw a chollodd aelod o'i theulu yn ystod y gyflafan oedd Rachel Irvine.
Roedd ei brawd Ross yn un o'r 16 o ddisgyblion a gafodd eu lladd ar 13 Mawrth 1996.
Nid oedd Ms Irvine, sy’n 28 oed, erioed wedi cyfarfod ei brawd mawr, ond i deuluoedd fel rhai hi, dyw'r galar byth yn eu gadael.
“Pan rydych yn colli plentyn ac aelod o deulu, nid yw’r teimlad yna yn eich gadael chi.” meddai.
“Dwi'n meddwl ei fod yn niwed sydd yn aros gyda chi am byth.
“Mae bywyd yn parhau, ond dydych chi byth yn stopio meddwl am eich plentyn. Nid ydych byth yn symud ymlaen.
“Rydych o hyd yn meddwl amdanynt. Yn enwedig ar ddyddiad mor bwysig yn cofio 30 mlynedd ers y digwyddiad, ond mae’n wir bob dydd.”
Roedd Ms Irvine yn byw yn Dunblane tan oedd yn saith mlwydd oed.
Dywedodd fod y digwyddiad yn "adeg ddwys iawn" yn hanes y dref.
“Mewn sawl ffordd, mae wedi diffinio Dunblane,” meddai.
“Nid oedd unrhyw un yn disgwyl rhywbeth fel hynny yn digwydd yn fan yn. Ond wrth gwrs, mae gallu digwydd unrhyw le.”
Mae hi a’i theulu yn cofio 30 mlynedd ers y digwyddiad gan deithio i fedd Ross yn Ayr.
Penderfynodd y teulu ei gladdu ryw 70 milltir i ffwrdd yn Ayr oherwydd roedd Ross wedi treulio llawer o’i fywyd yno. Roedd y teulu wedi symud i Dunblane yn Hydref 1995, chwe mis cyn yr ymosodiad.
“Dwi'n meddwl ei fod yn anodd iawn iddynt,” meddai Ms Irvine.
“Dwi’n gwybod ar gyfer fy mam, mewn sawl ffordd mae hi’n teimlo fel eu bod nhw wedi dod ag ef i Dunblane i farw. Ond wrth gwrs, nid dyna beth yw’r achos o gwbl.
“Ond mae'r rhain yn fath o bethau mae rhieni yn eu meddwl pan rhywbeth fel hyn yn digwydd i'ch plentyn.”
Dywedodd Ms Irvine ei bod yn gobeithio bod rhywun mor ifanc â hi yn gallu helpu addysgu'r genhedlaeth iau ynglŷn â phwysigrwydd y cyfreithiau gynnau a ddaeth ar ôl Dunblane.
“Nid yw llawer o bobl yr un oedran a mi yn ymwybodol o’r hyn ddigwyddodd yn Dunblane, a pham rydym wedi cael ein magu gyda chyfreithiau gynnau,” meddai.
“Rwyf yn credu fy mod yn ei gymryd yn ganiataol, achos ei fod yn o fy mywyd i.
"Felly os mae yna unrhyw ffordd allai helpu i daflu goleui ar y sefyllfa a rhoi sylw iddo ar gyfer y genhedlaeth iau, dwi'n meddwl ei fod yn bwysig.”

