Llynges America i hebrwng tanceri olew yn y Gwlff wrth i brisiau olew godi eto
Fe fydd llongau rhyfel America yn hebrwng tanceri olew yn y Gwlff wedi i arweinydd newydd Iran fynnu y bydd y wlad yn parhau i dargedu llongau sy'n teithio drwyddo.
Wrth i brisiau olew crai godi unwaith eto i dros $100 y gasgen, mae pryderon y bydd yn arwain at gynnydd byd-eang mewn prisiau tanwydd, nwyddau a chyfraddau llog.
Erbyn dydd Iau, roedd prisiau petrol yn y DU wedi cynyddu 6.81 ceiniog y litr ar gyfartaledd, gyda phris diesel yn codi 14.81 ceiniog ar gyfartaledd.
Wrth ymateb i’r cynnydd ym mhrisiau olew, mae gwledydd yn yr Asiantaeth Egni Ryngwladol, sy'n cynnwys y DU, wedi cyhoeddi y bydd 400 miliwn o gasgenni o olew yn cael eu rhyddhau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r cynnydd.
Mae America bellach hefyd yn rhoi caniatâd dros dro i wledydd brynu olew gan Rwsia, gwlad y mae wedi gosod sancsiynau arni yn sgil y rhyfel yn Wcráin.
Mae Llywodraeth America hefyd wedi cadarnhau y byddai llongau yng Nghulfor Hormuz yn cael eu tywys "mor fuan ag sy’n bosib o safbwynt milwrol".
Mae tua 20% o gyflenwad olew crai y byd yn cael ei gludo gan danceri drwy’r culfor yn y Gwlff, ond mae ymosodiadau gan luoedd Iran ar longau dros y dyddiau diwethaf wedi arwain at gynnydd pellach yn y farchnad.
Dywedodd Ysgrifennydd Trysorlys America, Scott Bessent: "Fy nghred yw, cyn gynted ag sy'n bosib o safbwynt milwrol, fe fydd llynges America, o bosib gyda chydweithrediad rhyngwladol, yn hebrwng tanceri drwodd."
Mae Uwch-Arweinydd newydd Iran, Mojtaba Khamenei, wedi dweud y bydd y wlad yn parhau i dargedu’r culfor, er mwyn ceisio cynyddu’r pwysau ar America ac Israel.
Llun: USS Abraham Lincoln (US Navy)

