Jonny Clayton yn ennill yn Uwch Gynghrair y Dartiau er ei fod yn 'dioddef gyda gowt'
Daeth Jonny Clayton yn fuddugol yn Uwch Gynghrair y Dartiau nos Iau er gwaethaf y ffaith ei fod yn dioddef gyda gowt yn ei ffêr.
Mae’r Cymro wyth pwynt yn glir o’i gystadleuwyr yn nhabl y gystadleuaeth ar ôl iddo ennill 6-1 yn y rownd derfynol yn Nottingham yn erbyn cyn bencampwr y byd, Luke Humphries.
Ond ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd y gŵr o Bontyberem ei fod wedi bod yn noson anodd iddo wrth geisio ymdopi â’r poen.
"Do’n i ddim yn disgwyl llawer i fod yn onest. Roeddwn i’n diodde' 'da gowt yn fy ffêr," meddai.
"Roedd ychydig yn anodd, ond roedd y fraich yn iawn a dyna’r peth pwysicaf."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2032226240363450680?s=20
Roedd y Ferret, a enillodd yr Uwch Gynghrair yn 2021, wedi curo Michael van Gerwen a Stephen Bunting 6-3 ar y ffordd i’r rownd derfynol nos Iau.
Wedi chwe rownd o’r Uwch Gynghrair, dyma’r ail noson iddo ennill hyd yn hyn. Gyda Clayton ar frig y tabl, mae ei gyd-Gymro, Gerwyn Price, yn y trydydd safle.
"Dyma fy hoff gystadleuaeth," ychwanegodd Clayton. "Rwy’n caru ‘e. Rwy’n gobeithio fy mod i’n profi pam dylwn i fod ynddo fe, a bod fy nartiau yn gwneud y siarad."
