Awdurdodau yn ymchwilio i ganolfan achub anifeiliaid yn Sir Gâr
Mae'r awdurdodau yn ymchwilio i ganolfan achub anifeiliaid yn Sir Gâr yn dilyn pryderon am y ffordd y mae cŵn yn cael eu trin yno.
Fe aeth arolygwyr o Drwyddedu Anifeiliaid Cymru, ynghyd â swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys, i ganolfan achub Many Tears yng Nghefneithin ddydd Mawrth yn dilyn honiadau o gamymddwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Trwyddedu Anifeiliaid Cymru fod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae Many Tears yn dweud eu bod yn trin eu hanifeiliaid yn "eithriadol o dda" a'u bod yn "gweithio'n agos" gyda'r awdurdodau.
Y gred yw nad oes unrhyw anifeiliaid wedi cael eu symud o'r ganolfan wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal.
Daw yn dilyn cwynion gan nifer o bobl sydd wedi achub anifeiliaid o Many Tears, yn ogystal â chyn-weithiwr y ganolfan.
Mae rhai o'r honiadau'n ymwneud â chŵn bach sydd wedi'u cludo i Abergwaun o ffermydd cŵn yn Iwerddon i'w hailgartrefu ac yna'u gwerthu gan y ganolfan.
Yn ôl WalesOnline, mae'r honiadau'n canolbwyntio ar frechlynnau nad ydynt yn cael eu rhoi yn yr oergell, cŵn bach nad ydynt yn cael eu gwahanu wrth eu cludo o Abergwaun i'r ganolfan achub yng Nghefneithin, a chynhyrchu cardiau brechu ar raddfa fawr.
Mae'n dweud bod honiadau hefyd wedi dod i'r amlwg sy'n awgrymu bod rhai cŵn wedi cael eu rhoi mewn cartrefi newydd heb ddatgelu'n llawn unrhyw broblemau iechyd presennol, gan godi amheuon am ddibynadwyedd dogfennaeth feddygol ac asesiadau cyn iddynt gael eu mabwysiadu.
'Ymdrechu'
Dywedodd llefarydd ar ran Many Tears: "Ddydd Mawrth, roedd cynrychiolwyr o Drwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi ymweld â'r ganolfan i nôl gwaith papur.
"Ni chafodd unrhyw anifeiliaid eu symud o'r safle yn ystod yr ymweliad ac ni chafodd unrhyw bryderon eu codi am gyflwr na gofal yr anifeiliaid ar y safle."
Wrth ymateb i'r cyhuddiadau ynghylch cludo anifeiliaid i'w cyfleuster, dywedodd llefarydd: "Mae Many Tears yn achub ac yn ailgartrefu o sawl sefydliad bridio mawr, rhai ohonynt yn Iwerddon, i gynnig cyfle i gŵn a fu'n bridio gynt gael cartref cariadus am byth.
"Rydym hefyd yn cymryd rhai cŵn bach heb eu gwerthu sydd wedi cyrraedd oedran lle nad ydynt bellach yn ddymunol i'r cyhoedd.
"Rydym yn gwbl agored am y gweithgaredd hwn ac mae'r wybodaeth ar gael o dan 'cwestiynau cyffredinol' ar ein gwefan. Mae ein faniau wedi'u harchwilio a'u trwyddedu'n llawn ar gyfer cludo cŵn a chŵn bach. Mae'r cŵn bach yn cael eu cludo mewn rhan ar wahân o'r fan gludo i'r cŵn sy'n oedolion.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau fel elusen achub anifeiliaid sefydledig ac uchel ei pharch o ddifrif ac yn ymdrechu i gynnal y safonau uchaf ar draws popeth a wnawn. Felly, rydym yn cymryd yr honiadau hyn am gardiau brechu a storio brechlynnau o ddifrif ac ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i'r honiadau hyn."
Dywedodd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2020 i gefnogi awdurdodau lleol i reoleiddio busnesau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a sicrhau bod safonau lles yn cael eu bodloni, nad oedd yn gallu rhoi sylwadau pellach oherwydd yr ymchwiliad parhaus.