'Barod am y frwydr': Abertawe yn herio Wrecsam yn y Bencampwriaeth

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Abertawe yn erbyn Wrecsam

Bydd Abertawe yn teithio i'r gogledd i wynebu Wrecsam nos Wener, gyda'r ddau glwb yn "barod am y frwydr" ar y StōK Cae Ras.

Mae Wrecsam yn y chweched safle yn y Bencampwriaeth, tra bod yr Elyrch wedi codi i'r 10fed safle wedi buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Portsmouth nos Fawrth.

Y tro diwethaf i'r ddau glwb gwrdd oedd ym mis Rhagfyr, gyda gôl Adam Idah yn y munudau olaf yn sicrhau'r fuddugoliaeth o 2-1 i Abertawe.

Ers hynny dim ond tair gêm yn unig mae'r Dreigiau wedi eu colli yn y gynghrair ac ar hyn o bryd maent yn parhau yn y safleoedd gemau ail-gyfle.

Roedd Abertawe tuag at y gwaelodion tan nos Fawrth, gyda buddugoliaeth oddi cartref yn eu codi i'r 10fed safle a'u symud o fewn pum pwynt o Wrecsam.

Mae ymosodwr Wrecsam, Davis Keillor-Dunn yn dweud bod y clwb yn "barod am y frwydr" yn erbyn yr Elyrch wedi iddyn nhw golli yn erbyn Hull nos Fawrth.

"Byddwn yn barod i fynd eto ddydd Gwener," meddai.

"Does dim gêm well i fownsio 'nôl ar ôl colli na darbi Cymreig. Bydd y garfan eisiau hynny mwy nag unrhyw beth.

"Mae angen i ni ddial, dydyn ni ddim eisiau timau yn ennill yn erbyn ni cartref ac oddi cartref y tymor yma.

"Felly byddwn yn paratoi i fod yn barod am y frwydr nos Wener."

Image
Adam Idah yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn Wrecsam ym mis Rhagfyr. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Adam Idah yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn Wrecsam ym mis Rhagfyr (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Er bod Abertawe o fewn pum pwynt yn unig i'r safleoedd gemau ail-gyfle, mynnu mae eu rheolwr mai'r ffocws ar yr ornest nos Wener, yw Wrecsam yn unig.

Dywedodd Vitor Matos bod ei garfan yn teithio i'r gogledd "i gystadlu."

"Yr hyn sydd rhaid i ni feddwl am yw ' beth allwn ni wneud i ennill'," meddai.

"Fe fydd yn emosiynol ac yn anodd, rydym yn gwybod hynny.

"Yn gyntaf, mae rhaid i ni weld beth allwn wella arni, sut y gallwn gynnal cysondeb.

"Roedd y dyddiau diwethaf am wella, y meddylfryd a mynd i Wrecsam i gystadlu."

Pe bai Abertawe yn ennill nos Wener, fe fyddan nhw o fewn dau bwynt o Wrecsam yn y tabl.

Dyw'r Elyrch heb ennill tair gêm yn olynol ers mis Ebrill diwethaf, ond mae ganddyn nhw'r cyfle i wneud hynny nos Wener.

Pe bai Wrecsam yn sicrhau buddugoliaeth, fe fyddan nhw o fewn tri phwynt i Hull, sydd yn un safle uwch eu pennau yn y gynghrair, cyn iddyn nhw herio West Brom ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.