Pryder tad a merch o Fangor sydd heb glywed gan eu teulu yn Iran

Newyddion S4C
Layla a Hossein

Gyda bron i bythefnos ers i’r brwydro ddechrau rhwng America ac Iran, mae teulu o Fangor sydd â pherthnasau yn Iran yn dweud nad ydynt wedi clywed ganddynt ers dros wythnos bellach.

Yn ôl Layla a’i thad Hossein, maen nhw’n deffro bob bore gan “ofni’r gwaethaf” wrth wylio’r ffrwydradau ar y newyddion.

Mi symudodd Hossein i Fangor dros 40 o flynyddoedd yn ôl a gan ei fod wedi beirniadu’r llywodraeth yn Iran, dyw e erioed wedi dychwelyd oherwydd pryderon am ei ddiogelwch.

Mae’n dweud fod Iraniaid sy’n dioddef yn cael eu lladd gan y llywodraeth yno yn ogystal â’r brwydro diweddar.

Er mwyn diogelu aelodau’r teulu, dydyn ni ddim yn datgelu enw ola’r teulu na chwaith lle maen nhw’n byw yn Iran.

Ond mae Layla a Hossein yn dweud eu bod yn poeni’n arw am eu teulu er eu bod nhw’n trio “aros yn hopeful”.

“Mae’n unimaignable rili, [‘dan ni heb glywed] dim byd, maen nhw wedi troi yr internet off completely so dwi jest 'di clywed wythnos yn ôl bod bob dim yn iawn ond 'dan ni ddim rili yn gwybod wan”, meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

“Fel arfer ‘dan ni’n siarad bob dydd, bob wythnos ond 'dan ni ddim yn gwybod o gwbl wan a jest un tic sydd ar WhatsApp nhw”.

Image
Layla a'r teulu yn Iran yn 2004
Layla a'r teulu yn Iran yn 2004

Mae cysylltiad y wê mewn nifer o rannau yn Iran wedi torri ac mae’n anodd cael gwybodaeth ddibynadwy o’r wlad.

“Mae pobl yna yn fwy ofn o’r Islamic Republic ei hun na o’r bombs dwi meddwl”, meddai Layla.

Mae’n dweud ei bod yn deffro bob bore gan ofni’r gwaethaf ac yn dweud ei bod yn meddwl am y sefyllfa “bob dydd”.

Mi wnaeth tad Layla, Hossein ddod i Fangor dros 40 mlynedd yn ôl yn gyntaf i astudio ac mae bellach yn berchen ar fwyty pitsa adnabyddus ym Mangor Uchaf.

“Dwi ‘di bod yn byw yma ers 40 o flynyddoedd”, meddai Hossein.

“Ond dwi’n cydymdeimlo efo’r lle ges i fy ngeni, mae’r Unol Daleithiau ac Israel yn cwffio dros fuddiannau nhw eu hunain ac mae pobl Iran yn styc rhwng y ddau.

“Ar un ochr mae ein pobl yn cael eu lladd gan y rhyfel ac ar yr ochr arall gan orthrwm yr unbennaeth”.

Image
Layla a'i brawd yn Iran yn 2004
Layla a'i brawd yn Iran yn 2004

Ers gadael 40 o flynyddoedd yn ôl dydi Hossein erioed wedi bod yn ôl i’w famwlad gan ofni ymateb llawdrwm y gyfundrefn.

Tra’n ddiogel 'nôl yma yng Nghymru mae Layla’n dweud bod hi llawn euogrwydd o weld profiadau ei theulu.

“Mae gennai lot o survivers guilt, dwi ddim yn gwybod pam bo' fi wedi ennill y post code lottery a dwi’n byw yma efo bywyd da... ar un llaw ma gen i ddau fywyd.

“Dwi’n hapus, dwi’n mynd i gwaith, i’r gym a popeth yn iawn a dwi’n saff, ond ar y llaw arall, mae fy nghalon i yn Iran efo’r teulu”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.