Caerdydd: Dyn wedi 'llofruddio ei gyn-wraig cyn ei chladdu mewn gardd'

Paria Veisi

Mae llys wedi clywed fod dyn wedi trywanu ei gyn-wraig i farwolaeth cyn ei chladdu yn ei ardd. 

Fe wnaeth Alireza Askari, 42 oed, gyfaddef iddo ladd Paria Veisi, 37 oed, mewn tŷ yr oedden nhw wedi ei rannu gyda'i gilydd yn y gorffennol, ym mis Ebrill y llynedd. 

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau fod Ms Veisi wedi gwahanu oddi wrth ei gŵr yn ddiweddar ac wedi symud allan o'r cartref yn gynharach y mis hwnnw. 

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i'w chorff yng ngardd yr eiddo. 

Dywedodd William Hughes KC ar ran yr erlyniad fod Askari wedi llofruddio ei gyn-wraig cyn cael gwared o'i chorff gyda chymorth ei fodryb, Maryam Delavary.

Clywodd y llys fod Askari a Ms Veisi wedi symud i'r DU o Iran yn 2010 cyn priodi, ond roedden nhw wedi gwahanu ar adeg y llofruddiaeth.

'Atal claddedigaeth gyfreithlon'

Fe ddangosodd dadansoddiad o ffôn Askari ei fod wedi bod yn anfon negeseuon testun at ddynes yn Iran, sef ei gariad honedig, cyn y llofruddiaeth. 

Mewn un neges, fe ddywedodd wrth y ddynes: "Dwi'n bwriadu iddyn nhw ei lladd hi yn Iran."

Ar 12 Ebrill y llynedd, fe wnaeth Askari brynu cyllyll cegin o'r archfarchnad cyn dychwelyd adref. 

Dywedodd Mr Hughes: "Achos yr erlyniad ydy fod y diffynnydd cyntaf, Alireza Askari, wedi llofruddio Paria Veisi am tua 16:30 ar 12 Ebrill yn ystafell wydr ei gartref. 

"Wedi i Alireza Askari lofruddio Paria Veisi, fe wnaeth atal claddedigaeth gyfreithlon o'i chorff drwy ei gosod mewn bedd dros dro yn yr ardd."

'Cuddio llofruddiaeth'

Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe wnaeth Askari ffonio Delavary, ei fodryb, a deithiodd o Lundain i Gaerdydd mewn tacsi, cyn gwneud taith arall i'r archfarchnad gan brynu cannydd (bleach), compost a phlanhigion.

Ychwanegodd Mr Hughes: "Achos yr erlyniad yw, ar ôl cyrraedd, fod Maryam Delavary yno i gynorthwyo i guddio llofruddiaeth Paria."

Fe wnaeth ffrind i Ms Veisi gysylltu â Heddlu De Cymru ddiwrnod ar ôl ei llofruddiaeth, gan godi pryderon ei bod yn "cael ei chadw yn erbyn ei hewyllys gan ei chyn-ŵr" ac fe gafodd ymchwiliad person coll ei lansio yn ddiweddarach. 

Ar 15 Ebrill, fe gafodd Askari ei arestio tra'n gyrru yn ôl i Gaerdydd o Birmingham. 

Wedi i swyddogion chwilio yn y cartref, fe ddaethant o hyd i gorff Ms Veisi yn yr ardd gefn. 

Roedd wedi dioddef pedwar clwyf trywanu, gan gynnwys anafiadau i'w brest a'i gwddf. 

Plediodd Askari, o Benylan, Caerdydd, yn euog i lofruddiaeth ac atal claddu corff yn gyfreithlon yn Llys y Goron Caerdydd.

Plediodd Maryam Delavary, 48, yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder. 

Mae disgwyl i Mrs Ustus Stacey eu dedfrydu ddydd Gwener. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.