Ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn galw am ymchwiliad i Esgobaeth Bangor
Wedi i Archesgob Cymru ymddeol ar unwaith ddydd Gwener, mae ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru wedi galw am gyfres o adolygiadau ac ymchwiliadau i esgobaeth a Chadeirlan Bangor.
Mae'r esgobaeth wedi bod dan y lach ers misoedd wedi cyhoeddi crynodebau dau adroddiad ym mis Mai oedd yn son am "gymylu ffiniau rhywiol", yfed alcohol i ormodedd a gwendidau diogelu a llywodraethiant yn y Gadeirlan.
Nos Wener, cyhoeddodd cyn-Archesgob Cymru Andy John ei ymddeoliad ar unwaith. Bydd yn ymddeol fel Esgob Bangor ddiwedd Awst.
Does dim awgrym bod yr archesgob wedi ymddwyn yn amhriodol.
Daeth y cyhoeddiad wedi i Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru gwrdd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth diwethaf. Mae'r corff - ymddiriedolwyr yr Eglwys - nawr wedi cyhoeddi yn llawn ddatganiad a gafodd ei ddrafftio ganddyn nhw yn y cyfarfod hwnnw.
Maen galw am "newid mewn arweinyddiaeth, gweithdrefnau a llywodraethu yn Esgobaeth Bangor".
Mae Newyddion S4C yn deall i'r cyn-Archesgob geisio newid geiriad y datganiad, ond i'r cais gael ei wrthod. Doedd yr Eglwys ddim am wneud sylw am hynny.
'Pryder mawr'
Dywedodd Corff y Cynrychiolwyr eu bod yn pryderu am "ddatgeliadau o fethiannau diogelu, ffiniau aneglur, ymddygiad amhriodol, amgylchedd rheoli gwan a diffyg tryloywder mewn rheolaeth yn Eglwys Gadeiriol Bangor" sydd yn "peri pryder mawr".
Maent yn "annog yr Esgobaeth a'r Eglwys Gadeiriol i weithredu'n gyflym ac yn dryloyw i adfer ymddiriedaeth a sicrhau amgylchedd ddiogel ac atebol ar gyfer pawb."
Maent hefyd yn galw am y gwelliannau canlynol:
1.) Archwiliad ariannol annibynnol llawn i'r tair elusen sydd yn gysylltiedig ag Esgobaeth a Chadeirlan Bangor.
2.) Archwiliad diwylliannol o'r Eglwys yng Nghymru.
3.) Ymchwiliad allanol i ymddygiad, diwylliant a gweithgareddau Côr yr Eglwys Gadeiriol gan roi sylw dyledus i'r materion a nodwyd yn yr adroddiadau sy'n ymwneud â'r Côr, i gael ei gomisiynu gan Gabidwl y Gadeirlan.
4.) Ymddiriedolwyr yr elusennau sydd yn gysylltiedig ag esgobaeth a Chadeirlan Bangor i ymrwymo'n ffurfiol i "ymgysylltu'n llawn â'r Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn adroddiad yr Ymweliad ac adroddiad thirtyone:eight i weithredu'n llawn yr holl argymhellion yn yr adroddiadau ac i gydymffurfio â chyfarwyddiadau canllawiau a gyflwynwyd iddynt gan y Bwrdd Goruchwylio."
5.) Creu tasglu i weithio gyda swyddogion Esgobaeth Bangor i "gyflawni a gweithredu'r newidiadau system sydd eu hangen i greu seilwaith cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd aelodau'r tasglu yn cael mynediad llawn at wybodaeth, a chaniateir iddynt fynychu cyfarfodydd bwrdd a rheoli."
6.) Uwch arweinwyr yr Esgobaeth, y Bwrdd Cyllid Esgobaethol, a Chabidwl yr Eglwys Gadeiriol i gymryd rhan mewn ymarfer dan arweiniad allanol lle mae pob carfan yn cytuno i ymgysylltu, dirnad a myfyrio ar y digwyddiadau sydd wedi arwain yr Esgobaeth i'r sefyllfa hon. Bydd ymarfer o'r fath yn holi am y gwersi a gafodd eu dysgu ac yn hwyluso cyfeiriad cyffredin ar gyfer y dyfodol.
Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn dweud bod ariannu esgobaeth a Chadeirlan Bangor at y dyfodol yn "gwbl ddibynnol ar fod Corff y Cynrychiolwyr yn fodlon bod strwythurau rheoli priodol a gweithdrefnau ariannol a gweinyddol ar waith i ddangos llywodraethu effeithiol".
Bydd archwiliad o holl Gadeirlannau Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu gan Gorff y Cynrychiolwyr er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd.
Ymateb
Dywedodd yr Aelod Seneddol Ruth Jones, cyd-gadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Ddiogelu Mewn Cymunedau Ffydd ei bod hi’n croesawu’r datganiad.
Fe fyddai ymchwiliad ariannol allanol i Esgobaeth Bangor ac ymddygiad gwael honedig yn ymwneud â’r côr “yn ddefnyddiol er mwyn darganfod beth yn union sydd wedi bod yn mynd ymlaen,” meddai.