Llywodraeth y DU yn ennill pleidlais y wladwriaeth les wedi newidiadau pellach munud olaf
Llywodraeth y DU yn ennill pleidlais y wladwriaeth les wedi newidiadau pellach munud olaf
Mae ASau wedi pleidleisio o 335 i 260 o blaid cynlluniau dadleuol y wladwriaeth les yn San Steffan, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig orfod cyflwyno newidiadau pellach munud olaf.
Llwyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ennill gyda mwyafrif o 75 o bleidleisiau sy'n golygu y bydd y bil diwygio lles yn symud i'r cam nesaf yn y Senedd.
Cafodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer ei orfodi i wneud tro pedol sylweddol yr wythnos diwethaf ar newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau.
Fe wnaeth hynny er mwyn ceisio tawelu'r gwrthwynebiad i'r newidiadau ymysg aelodau seneddol ei blaid ei hun.
A phrynhawn dydd Mawrth, rai oriau cyn y bleidlais, cynigiodd ddiwygiadau pellach i'r aelodau Llafur hynny a oedd yn dal yn anfodlon â'r cynlluniau wedi'r tro pedol yr wythnos diwethaf.
Bydd pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol (PIP) ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi newidiadau ar y diwygiadau lles dadleuol nos Iau diwethaf.
A bydd addasiadau i Gredyd Cynhwysol (Universal Credit) hefyd yn diogelu incwm y rhai sydd yn ei hawlio ar hyn o bryd.
Yn sgil y newidiadau nos Iau diwethaf, byddai'r toriadau i fudd-daliadau yn effeithio ar y rhai a oedd yn cyflwyno cais am y tro cyntaf, ond nid y rhai sydd eisioes yn eu hawlio.
Ond brynhawn Mawrth gyda'r anfodlonrwydd ar feinciau cefn Llafur yn parhau, bu'n rhaid i'r Llywodraeth gamu yn ôl unwaith yn rhagor, gan nodi na fydd y newidiadau o safbwynt y rhai sy'n gymwys ar gyfer y Taliad Annibyniaeth Personol yn dod i rym fis Tachwedd y flwyddyn nesaf fel y bwriad gwreiddiol.
Yn hytrach, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn aros am gasgliadau adolygiad o dan arweiniad y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Syr Stephen Timms.
Fydd gweinidogion ddim yn cyflwyno'u hargymhellion ar gyfer y Taliad Annibyniaeth Personol hyd nes i'r adolygiad hwnnw ddod i ben, ac wedi i'r llywodraeth ystyried y casgliadau.
Y bwriad yn wreiddiol oedd bwrw ymlaen â'r newidiadau cyn i'r adolygiad gael ei gwblhau.
Nos Fawrth oedd y cyfle cyntaf i ASau gael cyfle i gefnogi neu wrthod y Bil Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol.
Mae canlyniad y bleidlais yn golygu fod trafferthion Llywodraeth Syr Keir Starmer yn parhau gyda nifer o aelodau Llafur yn dal i wrthwynebu'r cynlluniau.
Fe bleidleisiodd AS Llafur dros Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, yn erbyn, ac ni wnaeth AS Llafur dros Gaerffili, Chris Evans, bleidleisio.