Dau wedi marw mewn prifysgol ar ôl i lid yr ymennydd a septisemia ymledu
Mae dau berson wedi marw mewn prifysgol yn Lloegr ar ôl i glefyd sy'n achosi llid yr ymennydd a septisemia ymledu yno.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) eu bod nhw wedi cael gwybod am tua 13 o achosion o bobl sy’n dangos arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia rhwng dydd Gwener a dydd Sul yn ardal Caergaint yng Nghaint.
Mae dau berson wedi marw, meddai’r UKHSA.
Mae’r UKHSA a’r GIG yn trefnu gwrthfiotigau ar gyfer rhai myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint.
Mae clefyd meningococol, a all gynnwys llid yr ymennydd a septisemia, yn glefyd anghyffredin ond difrifol sy’n cael ei achosi gan facteria meningococol.
Dywedodd yr UKHSA mai “yn achlysurol iawn” y gall y bacteria meningococol achosi salwch difrifol, gan gynnwys llid i leinin yr ymennydd a gwenwyn gwaed, a all arwain yn gyflym at sepsis.
Dywedodd Trish Mannes, dirprwy gyfarwyddwr rhanbarthol UKHSA ar gyfer De-ddwyrain Lloegr: “Rydyn ni’n deall y bydd llawer o bobl yn y brifysgol ac yn y gymuned ehangach yn cael eu heffeithio gan y newyddion trist hyn a hoffen ni estyn ein cydymdeimlad at y ffrindiau a’r teuluoedd dan sylw.
“Bydd myfyrwyr a staff, yn naturiol, yn poeni am y risg o achosion pellach; fodd bynnag, hoffen ni eu sicrhau bod unrhyw un sydd â chysylltiad agos wedi cael gwrthfiotigau er mwyn bod yn saff.
“Mae cyngor a chefnogaeth yn cael eu cynnig i’r gymuned ehangach o fyfyrwyr, rydyn ni’n monitro’r sefyllfa’n fanwl.”
