Tân ynghanol Pen-y-bont ar Ogwr 'wedi ei gychwyn yn fwriadol'
Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n credu bod tân sylweddol ynghanol Pen-y-Bont ar Ogwr dros nos wedi ei gychwyn yn fwriadol.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw am 3.10 ddydd Sul i adroddiad am dân ar Heol Tremains yn y dref.
Fe gafodd pobl oedd yn yr adeilad eu gwagio yn saff ac nid oedd yna unrhyw anafiadau, medden nhw.
“Rydyn ni’n credu bod y tân wedi'i gynnau'n fwriadol,” meddai’r heddlu.
“Mae ymchwiliad i'r digwyddiad hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
“Mae'r ffordd yn parhau ar gau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.”
