Sul y Mamau: Nyrsio yn y gwaed i dair o ferched a'u mam
A hithau'n Sul y Mamau, mae bwrdd iechyd yn y de yn dathlu stori un teulu arbennig lle mae'r tair merch wedi dilyn eu mam i weithio yn yr un ysbyty.
Mae Kelly Brown yn cyd-weithio gyda’i merched Hannah, Laura a Lucy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Wrth drafod gwaith ei merched dywedodd Kelly Brown: “Credaf ei bod hi’n deg i ddweud bod nyrsio yn ein gwaed.
“Mae gweithio yn yr un sefydliad a fy merched yn gwneud i yn ofnadwy o falch.”
Mae nyrsio wedi chwarae rhan flaenllaw o hanes y teulu, gyda mam Kelly yn gweithio yn Ysbyty Caerffili.
“Mae ei chyfeillgarwch a’i dyfalbarhad wedi ein ysbrydoli ni fel teulu,” meddai Kelly.
Mae'n gweithio fel Gweithiwr Cefnogaeth Gofal Iechyd am 16 mlynedd ac mae hi wedi elwa o’r profiad ar y rheng flaen wrth ofalu am ei chleifion, meddai.
Bellach mae hi'n gweithio fel ‘Memory Link Warrior’, gan ofalu am gleifion sydd gan ansefydlogrwydd gwybyddol a dementia.
Dywedodd Kelly: “Nid dim ond gwaith sydd yma, mae’n rhywbeth sy’n golygu llawer i'n teulu.
"Mae gofalu am eraill wrth galon be yr ydym ni yn ei wneud, teimlaf yn lwcus i allu dal gwneud hyn bob dydd.”
'Ysbrydoli'
Mae Hannah wedi gweithio ar yr Uned Gynecoleg am 12 mlynedd fel Gweithiwr Cynnal Gofal iechyd, gan fod yn gefn i gleifion pan fod angen cyfeillgarwch a chysur.
Ym mis Mai 2025, cafodd Hannah gydnabyddiaeth am ei gwaith gan dderbyn gwobr ‘Health Hero’ gan y bwrdd iechyd
Laura yw cydlynydd Llif y Cleifion yn yr adran frys yr ysbyty, ers bod yn Weithiwr Cynnal Gofal Iechyd ers 12 mlynedd.
Dywedodd Laura: “Rwyf mor falch am y merched anhygoel yn fy nheulu. Mae fy mam yn fy ysbrydoli pob diwrnod, oherwydd ei brwdfrydedd, gan fynd tu hwnt ei gofynion er mwyn ei chleifion.”
Mae Lucy wedi bod yn nyrsio ers saith mlynedd, yn nyrsio ar yr Uned Ddwys ar gyfer y newydd-anedig gan ofalu am y babanod mwyaf bregus.
“Fel yr ieuengaf yn y teulu, rwyf wedi gwylio fy mam a fy chwaer yn adfocad ar gyfer eu cleifion ac o hyd yn mynd y cam ychwanegol," meddai.
"Mae gweld eu brwdfrydedd wedi gwneud i mi ddilyn eu holion traed.
“Rwyf mor falch o gael cynrychioli’r Bwrdd Iechyd, wrth ochr fy mam a fy chwaer."
