Culfor Hormuz: Y Deyrnas Unedig yn ystyried anfon dronau i chwilio am fomiau morol

Ed Miliband

Mae penaethiaid milwrol yn ystyried anfon dronau er mwyn cynorthwyo Donald Trump wrth ail-agor Culfor Hormuz.

Mae pryder fod Iran wedi gosod bomiau morol i dargedu tanceri sy'n hwylio drwy'r culfor. Mae tanceri hefyd wedi cael eu targedu gan daflegrau o'r tir.

Yn ol y Sunday Times mae'r Deyrnas Unedig yn ystyried danfon dronau y Llynges Frenhinol, sydd yn y Dwyrain Canol eisoes.

Yn ôl y Sunday Telegraph, mae’r Deyrnas Unedig hefyd yn ystyried danfon dronau i ryng-gipio dronau Iran. 

Adeiladwyd y rhain yn y Deyrnas Unedig ar gyfer eu defnyddio gan Wcrain yn erbyn Rwsia.

Mewn ymateb ar raglen Sunday Morning with Trevor Phillips, dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni a Net Sero, Ed Miliband bod y Llywodraeth yn "trafod gyda'n cynghreiriaid" i ddarganfod ffordd i ail-agor y Culfor.

"Mae yna ffyrdd gwahanol y gallwn sicrhau bod teithio ar y môr yn bosibl. Rydym yn edrych yn fanwl gyda'n cynghreiriaid i weld beth y gallwn wneud."

Yn gynharach dywedodd Mr Miliband fod yna "lu o bethau y gallwn eu gwneud, gan gynnwys defnyddio offer chwilio am ffrwydron môr (minehunting)".

Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg, dywedodd Ed Miliband bod y Deyrnas Unedig "heb ymuno â'r gwrthdaro gwreiddiol, roedd hi'n iawn i beidio ag ymuno â'r gwrthdaro gwreiddiol.

"Dwi'n credu mai mater i'r Unol Daleithiau yw hi i siarad am yr hyn y maen nhw am ei gyflawni yn y rhyfel, dwi'n dweud wrthoch chi mai safiad y Llywodraeth Brydeinig yw ceisio lleddfu'r gwrthdaro.

"Roedden ni'n bryderus nad oedd cynllun go iawn [gan yr Unol Daleithiau]."

Wrth ymateb i gwestiwn yn holi a oedd cynllun erbyn hyn, dywedodd: "Dwi'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn yma eisoes, mae'n rhaid i'r cynllun fod nawr i leddfu'r gwrthdaro".

Llongau milwrol

Daw hyn ar ôl i Arlywydd America alw ar wledydd i anfon llongau milwrol i’r rhanbarth er mwyn diogelu tanceri olew sy'n gadael y Dwyrain Canol.

Mewn ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn ystyried “llu o opsiynau” i adfer teithiau tanceri olew yn y Culfor lle mae 20% o olew y byd yn teithio drwyddo yn ddyddiol.

Yn ôl Arweinydd Goruchaf newydd Iran, Mojtaba Khamenei, mae'n addo parhau i rwystro Culfor Hormuz fel ffordd i roi pwysau economaidd a rhyngwladol ar yr Unol Daleithiau.

Dyma ddatganiad cyhoeddus cyntaf yr arweinydd newydd wrth i Donald Trump fygwth y byddai'n “gwaredu” Ynys Kharg, sydd yn rhan hanfodol i allforion olew Iran, os na fyddai Culfor Hormuz yn agor.

Mae'r Unol Daleithiau eisoes wedi bomio canolfannau milwrol ar yr ynys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.