Cymru yn ennill gêm yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2023
Mae Cymru wedi ennill gêm yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2023 wrth drechu’r Eidal 31-17.
Roedd Cymru fel tîm gwahanol o’r chwiban gyntaf wrth iddyn nhw reoli’r gêm i fynd 21-0 ar y blaen yn yr hanner cyntaf drwy geisiau gan Aaron Wainwright a’r capten Dewi Lake.
Fe darodd yr Eidal yn ôl yn yr ail hanner gan sicrhau diweddglo nerfus i'r gêm ar ôl amser mor hir heb fuddugoliaeth, a hynny er gwaethaf mantais Cymru.
Roedd disgyblaeth yr Eidal yn wael, gan ildio 8 cic gosb yn yr hanner cyntaf a gadael i Gymru fanteisio ar hynny.
Cymru oedd i sgorio gyntaf gyda chais gan yr wythwr Aaron Wainwright ar ôl i faswr yr Eidal, Paolo Garbisi, fethu cic gosb ar ben arall y cae.
Fe wnaeth Cymru ennill eu llinell o fewn 22 yr Eidal cyn i Wainwright dorri drwy amddiffyn yr Eidal a chroesi rhwng y pyst, gyda’r maswr Dan Edwards yn ychwanegu’r trosiad.
Roedd amddiffyn cadarn gan Gymru yn fuan wedyn yn ddigon i wrthyrru ymosodiad yr Eidal ac ennill cic gosb yn eu 22 eu hunain.
Fe gafodd yr Eidal eu cosbi eto yn y gwrthdaro, ac fe wnaeth Gymru wrthod y tri phwynt i fynd am y gornel.
Fe sgoriodd Wainwright ei ail gais, ond roedd yn ymddangos am funud ei fod wedi’i ddal i fyny, cyn i’r dyfarnwr teledu benderfynu caniatáu’r cais.
O fewn munudau roedd Cymru wedi ennill y bêl yn ôl ac yn ymosod eto o fewn 22 yr Eidal.
Sgoriodd y bachwr Dewi Lake, ac roedd Cymru 21-0 ar y blaen.
Yr ail hanner
Fe ddechreuodd Cymru’r ail hanner yn yr un modd â’r cyntaf, gyda chario gan y blaenwyr yn eu symud o fewn 10 metr i linell yr Eidal.
Fe aeth y bêl drwy’r dwylo, gan roi Edwards dros y gwyngalch a sicrhau’r pwynt bonws.
Daeth y pwyntiau nesaf i’r maswr hefyd wrth iddo daro gôl adlam dros y pyst o 40 metr.
Gyda 50 munud o’r gêm wedi chwarae fe gymerodd Nicky Smith le Rhys Carre ar roedd y dorf ar eu traed wrth gofio’r cais hynod yn erbyn Iwerddon yr wythnos diwethaf.
Fe darodd yr Eidal yn ôl ar ôl 50 munud gyda chais gan y bachwr Tommaso Di Bartolomeo ar ôl cic gosb i’r gornel.
Fe welodd y prop pen tynn Archie Griffin, oedd wedi dod ymlaen ar ôl anaf i Tomas Francis, gerdyn melyn.
Bu bron i’r Eidal sgorio o sgrym gyda Tommaso Menoncello yn gwibio’n glir, ond llwyddodd Josh Adams i’w daclo gyda thap ar ei bigwrn.
Fe sgoriodd yr Eidal eu hail gais ar 68 munud drwy Tommaso Allan i’w rhoi nhw o fewn tair sgôr.
Roedd yn ymddangos bod asgellwr yr Eidal, Monty Ioane wedi croesi yn y gornel yn y 10 munud olaf ond roedd ei droed dros yr ystlys.
Yr Eidal gafodd y gair olaf trwy gais Paolo Garbisi ar 80 munud ond roedd yn rhy hwyr i'r Eidalwyr.
