Cyhuddo menyw o lofruddio ar ôl i fabi syrthio o uchder

Y fan a'r lle

Mae menyw wedi cael ei chyhuddo o lofruddio ar ôl i fabi syrthio o uchder ddydd Sadwrn.

Mae Zahira Byjaouane, 43, o Ffordd Horseferry, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth ac wedi'i chadw yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu'r Met fod swyddogion wedi eu galw i Ffordd Horseferry yn Westminster, ganol Llundain ddydd Sadwrn.

Cyhoeddwyd bod y ferch fach 18 diwrnod oed wedi marw yn yr ysbyty.

Bydd Zahira Byjaouane yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.