'Ffyrdd eraill i brotestio': Graffiti ar gerflun Lloyd George yng Nghaernarfon
Mae cynghorydd canol tref Caernarfon wedi galw ar bobl i brotestio mewn ffordd wahanol ar ôl i graffiti ymddangos ar gerflun y cyn Brif Weinidog David Lloyd George.
Mae’r ysgrifen ar y cerflun yn cynnwys sloganau yn galw am ‘Balestina Rydd’ a'n galw Lloyd George yn wladychwr.
Dywedodd y Cynghorydd Cai Larsen bod ffyrdd eraill o brotestio yn erbyn yr hyn sy'n digwydd yn Gaza sydd yn fwy addas na pheintio cerflun.
"Allai weld yn iawn pam bod pobl yn teimlo yn gry’ am yr hyn sydd yn digwydd mewn gwahanol rhannau o’r byd ac yn Gaza yn arbennig," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ond dydw i ddim yn meddwl mai niweidio eiddo ydy’r ffordd o wneud hynny’n glir.
"Mae beth sydd yn digwydd wedi digwydd ar y maes yng Nghaernarfon, ac mae wylnos i gofio’r rhai yn Palestina yn cael ei gynnal bob nos Sul ar ochr arall y maes.
"I fi mae hynny’n beth mwy addas o lawer, i fynychu rhywbeth fel’na. Mae hynny’n fwy effeithiol."
Mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn "ymwybodol o’r difrod" i'r cerflun.
"Fel gydag unrhyw achos arall o graffiti mewn mannau cyhoeddus yn y sir, mae ein swyddogion yn ei lanhau cyn gynted â bo modd," medden nhw.
"Rydym hefyd yn gwirio lluniau camerâu teledu cylch cyfyng yn yr ardal a byddwn yn pasio unrhyw wybodaeth berthnasol ymlaen at yr heddlu.”
'Eiddo hanesyddol'
Ychwanegodd y Cynghorydd Cai Larsen bod digwyddiadau yn cael eu trefnu er mwyn i bobl brotestio yn erbyn yr hyn sydd yn digwydd yn Gaza.
"Mae pobl yn teimlo’n gry’ a mae rhywun yn dallt yn iawn, ond nid niweidio eiddo, yn arbennig eiddo hanesyddol o’r fath yna. Nid dyna’r ffordd i wneud hyn.
"Mae ‘na ffyrdd i wneud a hynny mae ‘na ddigwyddiadau yn cael eu trefnu. Mynychu rheiny ydy’r ffordd o wneud hyn, nid peintio cerflun."
Fe wnaeth llywodraeth Lloyd George chwarae rhan flaenllaw wrth osod y seilwaith ar gyfer creu gwladwriaeth Israel.
Yn 1917 fe wnaeth ei lywodraeth gyhoeddi Datganiad Balfour oedd yn galw am sefydlu "cartref cenedlaethol i'r bobl Iddewig" yn y diriogaeth a oedd ar y pryd yn rhanbarth Otomanaidd.
Crëwyd y cerflun yng Nghaernarfon gan Syr William Goscombe John ac fe gafodd ei dadorchuddio ar 6 Awst 1921 gan William Hughes, Prif Weinidog Awstralia, a fagwyd yn Llandudno.