Newyddion S4C

Taid yn dweud bod ei ymddygiad ei hun at ei ŵyr ‘yn ei ffieiddio’

Ethan Ives-Griffiths

Mae taid sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei ŵyr dwy oed wedi dweud wrth lys bod ei ymddygiad ei hun tuag at y plentyn bach “yn ei ffieiddio”.

Mae Michael Ives, 47, a’i wraig Kerry Ives, 46, yn gwadu achosi anaf difrifol i ben Ethan Ives-Griffiths cyn iddo lewygu yn eu cartref yn Sir y Fflint ar 14 Awst  2021.

Bu farw Ethan yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w ben, clywodd y rheithgor.

Roedd wedi bod yn aros yn nhŷ ei nain a’i daid yn Garden City gyda'i fam Shannon Ives, 28 oed.

Wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd Caroline Rees yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd Michael Ives ei fod yn teimlo’n “sâl” wrth ystyried ei fod wedi gadael i Ethan ddirywio tra’r oedd yn byw gyda nhw.

Derbyniodd ei fod wedi esgeuluso Ethan a bod y ffordd yr oedd wedi ei gario, gan gydio yn rhan uchaf ei fraich, yn greulon.

Ond gwadodd iddo ei gam-drin mewn ffyrdd eraill.

Gofynnodd Ms Rees: “Roeddech chi’n greulon ac wedi esgeuluso Ethan?”

Atebodd Ives: “Oeddwn.”

Gwyliodd luniau teledu cylch cyfyng ohono'i hun ac Ethan yng ngardd gefn y cartref ar 4 Awst 2021, pan roedd modd ei weld yn cario'r plentyn bach gerfydd ei fraich.

Gofynnwyd i Ives sut roedd yn teimlo am y ffordd yr oedd wedi ymddwyn.

Atebodd ei fod yn teimlo “cywilydd” a bod ei ymddygiad ei hun “yn fy ffieiddio”.

Pan ofynnwyd iddo pryd y sylwodd fod Ethan yn “beryglus o denau”, dywedodd Ives ei fod wedi sôn am hynny wrth Shannon Ives ychydig wythnosau cyn marwolaeth y bachgen.

Dywedodd wrth y llys: “Roedd hi’n mynd i geisio cael apwyntiad doctor iddo.”

Dywedodd nad oedd wedi sylwi bod Ethan mor “ddadhydredig” fel bod arbenigwyr meddygol wedi dweud y byddai wedi marw o fewn cyfnod byr hyd yn oed pe na bai wedi cael anaf i’w ymennydd.

Ychwanegodd ei fod wedi “synnu” o glywed bod 40 o gleisiau a marciau coch ar gorff Ethan ar ôl ei farwolaeth.

Dywedodd wrth y llys ei fod yn yr ystafell fyw gydag Ethan ar 14 Awst 2021 pan drodd coesau y bachgen bach yn “jeli”.

Gofynnodd Caroline Rees a oedd rhywbeth “ofnadwy” wedi digwydd i Ethan toc cyn hynny.

“Dim byd,” meddai’r taid.

Mae Michael a Kerry Ives, o Ffordd Kingsley, Garden City, yn gwadu llofruddio eu hŵyr, a hefyd yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn ac ymddwyn yn greulon tuag at berson o dan 16.

Mae merch y cwpl, Shannon Ives, o Nant Garmon, yr Wyddgrug  yn gwadu iddi achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac yn gwadu iddi ymddwyn yn greulon tuag at berson o dan 16 oed. 

Mae'r achos yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.