Arestio tri o gyn-reolwyr Lucy Letby ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol
Mae tri o bobl oedd yn rhan o'r tîm uwch arweinyddiaeth yn yr ysbyty lle'r oedd y llofrudd Lucy Letby yn arfer gweithio wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Dywedodd Heddlu Sir Gaer fod y rhai sydd dan amheuaeth, a oedd mewn swyddi uwch yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng 2015 a 2016, wedi cael eu harestio ddydd Llun.
Ers hynny mae'r tri wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal, ychwanegodd yr heddlu.
Mae Letby, 35, o Henffordd, wedi derbyn 15 dedfryd oes am saith achos o lofruddiaeth a saith achos o geisio llofruddio, gan gynnwys dwy ymgais i ladd un plentyn.
Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.
Dywedodd yr heddlu fod ymchwiliadau i ddynladdiad corfforaethol a dynladdiad drwy esgeulustod difrifol yn parhau.
Yn dilyn yr arestiadau, dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hughes bod yr heddlu wedi lansio ymchwiliad i ddynladdiad corfforaethol yn Ysbyty Iarlles Caer ym mis Hydref 2023 ar ôl i Lucy Letby ei chael yn euog.
"Mae'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar yr uwch arweinyddiaeth a’u prosesau gwneud penderfyniadau er mwyn darganfod a oes unrhyw drosedd wedi digwydd mewn cysylltiad â'r ymateb i’r lefelau cynyddol o farwolaethau," meddai.
"Ym mis Mawrth 2025, fe wnaeth yr ymchwiliad ehangu i gynnwys dynladdiad drwy esgeulustod difrifol hefyd.
"Mae hwn yn drosedd ar wahân i ddynladdiad corfforaethol ac mae’n canolbwyntio ar weithredu neu beidio gweithredu mewn modd esgeulus a difrifol gan unigolion."
Ychwanegodd: "Mae’n bwysig nodi nad yw hyn yn effeithio ar euogfarnau Lucy Letby am lofruddiaeth ac ymgais i lofruddio."
Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Iarlles Caer na fyddai’n "briodol" i’r ysbyty ymateb "oherwydd Ymchwiliad Thirlwall ac ymchwiliadau’r heddlu sy’n parhau".
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i'r digwyddiadau yn unedau newyddenedigol Ysbyty Iarlles Caer ac Ysbyty Menywod Lerpwl yn ystod cyfnod Letby fel nyrs rhwng 2012 a 2016.
Fe wnaeth Letby golli dau gais y llynedd i apelio yn erbyn ei heuogfarnau yn y Llys Apêl am y saith llofruddiaeth a’r saith ymgais i lofruddio, ac eto ym mis Hydref am geisio llofruddio merch fach.
Bydd yr Arglwyddes Ustus Thirlwall yn cyhoeddi canfyddiadau ei hymchwiliad cyhoeddus ar ddechrau 2026.