Senedd Cymru yn gwneud hi'n anghyfreithlon dweud celwydd mewn ymgyrch etholiadol

Senedd Cymru

Mae Senedd Cymru wedi pasio cyfraith i wneud hi yn anghyfreithlon i ddweud celwydd yn ystod ymgyrch etholiadol.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i basio cyfraith o'r fath. 

Cafodd y ddeddf ei thrafod yn y Senedd nos Fawrth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bwriad y gyfraith newydd yw taclo "twyll bwriadol mewn etholiadau" trwy "osod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth nesaf Cymru i wahardd datganiadau ffug yn y rheoliadau sy’n llywodraethu etholiadau’r Senedd”.

Mae'r gyfraith newydd hefyd yn rhoi'r pŵer i bleidleiswyr Cymru ddiswyddo eu haelod o'r Senedd rhwng etholiadau.

Dywedodd yr AS Sioned Williams o Blaid Cymru nos Fawrth bod ei phlaid yn cefnogi'r gyfraith newydd. 

Mae angen "cydnabod pam bod cymaint o bobl heddiw yn teimlo wedi ei dadrithio ac yn hollol sinigaidd am wleidyddiaeth heddiw."

Ychwanegodd: “Dyw'r teimlad hwnnw wedi ymddangos o unman – mae’n deillio o ganfyddiad cynyddol nad yw gwleidyddion bob amser yn cael eu dal i’r un safonau â gweddill cymdeithas.”

'Cyfyngu mynegiant gwleidyddol' 

Fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds ei bod wedi siarad o'r blaen am yr "argyfwng o ddiffyg ymddiriedaeth" mewn gwleidyddion.

“Mae’r Bil hwn i fod i ymateb i’r argyfwng o ddiffyg ymddiriedaeth hwnnw. Dyma ein datganiad na fydd y Senedd yn goddef aelodau y mae eu hymddygiad yn tanseilio ein sefydliad," ychwanegodd.

Dyw pawb ddim wedi datgan cefnogaeth i'r gyfraith newydd gyda rhai gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi mynegi eu hanfodlonrwydd. Eu safbwynt nhw oedd y byddai yn cyfyngu ar ryddid barn.

Dywedodd Paul Davies, o'r blaid Geidwadol yng Nghymru bod ei blaid yn cydnabod yr angen i "amddiffyn pleidleiswyr rhag cam-wybodaeth bwriadol".

Ond mae yna "dal risg y gallai'r Mesur gyfyngu'n anfwriadol ar ddadl gyfreithlon a mynegiant gwleidyddol”.

Dywedodd wrth y Senedd bod hi'n bwysig bod y gyfraith newydd yn "gwella atebolrwydd o fewn gwleidyddiaeth Cymru."

Ychwanegodd bod y blaid yn gefnogol ond bod hi'n bwysig bod y system newydd yn un sydd yn "gweithio ac yn gallu cyflawni'r canlyniadau sydd wedi ei fwriadu". Ymhen amser meddai bydd modd gweld os fydd y gyfraith newydd yn "cryfhau atebolrwydd gwleidyddion" Cymru.

Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni Julie James wnaeth gyflwyno'r Mesur ac mi ddywedodd wrth y Senedd bod hon yn "ddeddf sy'n torri tir newydd". 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.