
Dau wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 38 oed yn y Barri
Mae Heddlu'r De'n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth wedi i ddyn 38 oed farw yn Y Barri, Bro Morgannwg nos Lun.
Mae dau lanc 16 ac 17 oed o Lanilltud Fawr wedi eu harestio ar amheuaeth o'i lofruddio ac maen nhw yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae nifer o ffyrdd yn y Barri wedi eu cau a phabell wen fforensig wedi ei chodi yn yr ardal.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau fod person wedi ei drywanu toc cyn hanner nos, nos Lun.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru: "Mae hon yn gymuned glos, a bydd yr hyn sydd wedi digwydd wedi syfrdanu pobl yr ardal.
"Rydym yn ymwybodol fod y digwyddiad yn cael effaith sylweddol ar y gymuned yn lleol, gyda ffyrdd ar gau ac ysgol ar gau gydol y dydd.
"Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth."
Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg bod Ysgol Gynradd Parc Jenner ar Stryd Hannah y Barri ar gau ddydd Mawrth.
Mae'r heddlu'n rhybuddio y bydd rhai ffyrdd ar gau am beth amser wrth i'w hymchwiliad barhau.
Mae teulu'r dyn sydd wedi marw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol yr heddlu.