Newyddion S4C

ASau i bleidleisio ar gynlluniau dadleuol y wladwriaeth les

ASau i bleidleisio ar gynlluniau dadleuol y wladwriaeth les

Mae ffigyrau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn awgrymu y bydd rhyw 150,000 o bobl yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi erbyn 2030 o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU.

Daw hyn er bod Syr Keir Starmer wedi gwneud tro pedol ar y newidiadau i fudd-daliadau lles.

250,000 oedd yr amcangyfrif o dan y cynlluniau gwreiddiol.

Mae disgwyl pleidlais ar fesur y Wladwriaeth Les yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach ddydd Mawrth.  

Cafodd Syr Keir Starmer ei orfodi i wneud tro pedol sylweddol yr wythnos diwethaf ar newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau. Fe wnaeth hyn er mwyn tawelu'r gwrthwynebiad i'r newidiadau ymysg aelodau seneddol ei blaid ei hun.

Bydd pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol (PIP) ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi newidiadau munud olaf ar y diwygiadau lles dadleuol.

Dywedodd llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Liz Kendall at ASau y byddai addasiadau i Gredyd Cynhwysol (Universal Credit) hefyd yn diogelu incwm y rhai sydd yn ei hawlio ar hyn o bryd.

'Wedi gwrando'

Daeth y cyhoeddiad ar ôl trafodaethau brys gyda'r meinciau cefn. Mae tua 126 o ASau o fewn y blaid wedi llofnodi gwelliant a fyddai'n atal y ddeddfwriaeth rhag cael ei phasio.

Bydd y Bil Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol yn cael ei ystyried yn San Steffan ddydd Mawrth, sef y cyfle cyntaf i ASau ei gefnogi neu ei wrthod.

Dyw hi ddim yn glir faint yn union o aelodau seneddol Llafur fydd yn pleidleisio yn erbyn y bil, wrth i nifer nodi eu bod nhw yn dal yn anfodlon, er gwaetha'r tro pedol.  

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street: “Rydym wedi gwrando ar ASau sy'n cefnogi egwyddor diwygio ond yn poeni am gyflymder y newid i'r rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan y system.

“Bydd y pecyn hwn yn cadw'r system nawdd cymdeithasol i'r rhai sydd ei hangen trwy ei rhoi ar sail gynaliadwy, yn darparu urddas i'r rhai na allant weithio, yn cefnogi'r rhai sy'n gallu ac yn lleihau pryder i'r rhai sydd yn y system ar hyn o bryd."

Roedd pecyn gwreiddiol y Llywodraeth yn cyfyngu ar y niferoedd fyddai'n gymwys ar gyfer y taliad annibyniaeth personol (PIP), y prif daliad anabledd, ac yn cyfyngu ar yr elfen o Gredyd Cynhwysol sy'n gysylltiedig â salwch.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.