Newyddion S4C

'Seren ddisglair': Teyrnged i ferch saith oed fu farw ar ôl i goeden ddisgyn arni

Leonna Ruka

Mae teulu merch saith oed fu farw ar ôl i goeden ddisgyn arni mewn parc yn Essex wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "seren ddisglair".

Fe gafodd Leonna Ruka, o Dagenham, ei lladd ac fe gafodd pedwar o blant eraill eu hanafu ar ôl i goeden ddisgyn ym Mharc Chalkwell yn Southend-on-Sea ychydig cyn 15:00 ddydd Sadwrn. 

Roedd y ferch fach wedi bod yn ymweld â theulu yn yr ardal ar ddiwrnod y digwyddiad ac yn mwynhau'r tywydd braf yn y parc, yn ôl Heddlu Essex. 

Er gwaethaf ymdrechion y cyhoedd i ruthro i geisio codi'r goeden ac ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Leonna. 

Mae merch chwe oed yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr critigol, yn ôl y llu. 

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Leonna ei bod hi'n "ferch fach hardd, ddisglair a chariadus, a gafodd ei chymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy sydyn".

"Roedd Leonna yn fwy na dim ond plentyn - hi oedd golau ein bywydau ni a phawb arall a gafodd y fraint o'i chyfarfod," medden nhw.

"Roedd ganddi galon llawn cariad, a meddwl oedd yn llawn o syniadau di-ddiwedd.

"Roedd hi'n ddoniol, yn glên ac yn llawn bywyd - seren ddisglair a oedd yn dod â hapusrwydd i le bynnag yr oedd hi'n mynd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.