Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: Dysgu Cymraeg er mwyn teimlo 'yn fwy yn rhan o Gymru'

Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: Dysgu Cymraeg er mwyn teimlo 'yn fwy yn rhan o Gymru'

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi enw’r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023. 

Y rhai a ddaeth i’r brig yw Alison Cairns o Lannerchymedd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.

Yn ystod yr wythnos mae Newyddion S4C yn cwrdd â’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. 

Mae Newyddion S4C eisoes wedi siarad â Tom Trevarthen ac Alison Cairns, ac heddiw Roland Davies sydd yn cael ei holi. 

Mae Mr Davies, 41, yn ffermio yn Llanidloes ac yn byw gyda ei wraig, Fflur, a'u tri o blant. 

Dysgodd Mr Davies Gymraeg flynyddoedd yn ôl yn yr ysgol, ond gan nad oedd ffrwd Gymraeg yn yr ysgol, roedd yn ei chael hi'n anodd i ddysgu'r iaith.

"O'n i'n dysgu Cymraeg yn fan 'na, jyst un dosbarth neu ddau bob wythnos a ddim rili wedi dysgu'r iaith yn dda iawn o gwbl," meddai wrth Newyddion S4C.

"Wedyn, pan o'n i'n tua 24, nes i gwrdd â fy ngwraig ac oedd hi'n hollol Cymraeg ac yn hollol rhugl a dwi 'di penderfynu ar y pryd 'falle well i fi dysgu bach mwy o Gymraeg ac ers hynna, dwi 'di bod yn trio dysgu 'chydig bach efo dosbarth nos."

Siarad Cymraeg gyda'r plant

Fe wnaeth Mr Davies a'i wraig, Fflur, briodi yn 2012 ac maent bellach yn magu tri o blant, ac roedd siarad Cymraeg gyda'r plant yn bwysig iawn iddo. 

"Gatho ni fachgen yn 2017, ac ar y pryd, o'n i'n meddwl reit, hwn ydi'r cyfle i fi rili dysgu Cymraeg achos o'n i'n meddwl os dwi ddim yn neud o wan, dwi ddim yn mynd i neud o," meddai.

"Dwi 'di penderfynu peidio siarad Saesneg o gwbl efo nhw a dyna be' dwi 'di neud a mae iaith fi 'di tyfu rili efo nhw.

"Os dwi'n mynd i ddysgu Cymraeg, hon ydi'r ffordd i fi neud o, i siarad Cymraeg gyda nhw a gweld sut mae'n mynd."

'Defnyddio'r Gymraeg gymaint â phosib'

Mae Mr Davies yn aelod o gôr Cymraeg ers 2006 ac wedi cystadlu gyda'r côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers hynny ac mae hefyd wedi bod yn canu gyda Theatr Maldwyn a "defnyddio gymaint o Gymraeg â posib."

"Dwi bendant yn teimlo fel dwi'n mwy yn rhan o Cymru rwan rili achos dwi wedi tyfu fyny yn Cymru di-Cymraeg - teulu fi yn hollol Cymraeg ond yn ddi-Gymraeg," meddai.

"Ar y pryd, pan o'n i'n tyfu fyny, dwi'n cofio mynd i gêm pêl-droed Cymru lawr yn Caerdydd a roedd 'na bachgen yn fan 'na, nath o gofyn 'Dach chi'n siarad Cymraeg?' a nes i ddeud 'Na, ddim yn siarad Cymraeg' a wedyn nath o ofyn 'Pam ti ddim yn gallu siarad Cymraeg? Ti o Gymru a ddim yn gallu siarad Cymraeg?'

"O'n i ddim yn hoffi fo rili ar y pryd so ar ôl dysgu Cymraeg wan, dwi ddim wedi dysgu pob peth ond dwi 'di dysgu digon o Gymraeg i gael sgwrs efo rhywun a dwi yn teimlo rwan fel dwi'n fwy o bywyd Cymraeg, rili.

"Yn bendant, ma' 'na bywyd hollol wahanol wan nag oedd o o'r blaen, yn bendant."

Mae Mr Davies hefyd yn teimlo bod angen mwynhau dysgu iaith.

"Profiad fi hefo'r Gymraeg ydi ti angen mwynhau neud o, os ti ddim yn mwynhau o, dyna pam dwi 'di switcho o un peth i'r llall mewn ffordd achos jyst achos ti'n diflasu efo fo 'chydig bach, mae 'na llawer o ffordd i dysgu Cymraeg so os ti'n switchio o un i'r llall, falle ti'n gallu switchio nôl pan ti'n diflasu efo ffordd arall," meddai.

"Dwi'n meddwl ti bendant angen mwynhau dysgu so dyna pam dwi 'di neud llawer efo'r côr a Theatr Maldwyn hefyd achos dwi'n mwynhau canu a bod ar y llwyfan so hon i fi oedd ffordd i dysgu Cymraeg a fwynhau neud rhywbeth yr un pryd." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.