Y cyn-chwaraewr pêl-droed Wyn Davies wedi marw yn 83 oed
Y cyn-chwaraewr pêl-droed Wyn Davies wedi marw yn 83 oed
Mae cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, Wyn Davies, wedi marw yn 83 oed.
Roedd Davies, o Gaernarfon, wedi chwarae 34 o weithiau dros ei wlad gan sgorio chwe gôl.
Roedd yr ymosodwr wedi gwneud dros 550 o ymddangosiadau yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr.
Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Locomotive Llanberis ac i’w dref enedigol Caernarfon.
Fe aeth ymlaen i chwarae dros nifer o glybiau gan gynnwys Wrecsam, Manchester United, Manchester City, Bolton a Newcastle United gan ennill y Fairs Cup (Cwpan UEFA) yn 1969.
Fe chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth Prydain yn erbyn Lloegr ym Mharc Ninian yng Nghaerdydd yn 1963.
Fe sgoriodd ei gôl gyntaf dros ei wlad flwyddyn yn ddiweddarach yn yr un gystadleuaeth mewn buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn yr Alban.
Bu’n rhaid iddo ymddeol o chwarae’n broffesiynol oherwydd anaf i’w ben-glin cyn dod â’i yrfa i ben gyda Dinas Bangor yn 1979.
Fe ddadorchuddiwyd plac yn nodi ei gampau yng Nghaernarfon yn 2018.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC): eu bod nhw’n “drist o glywed am farwolaeth cyn-flaenwr Cymru, Wyn Davies, yn 83 oed".
Dywedodd llefarydd ar ran CBDC: "Wedi'i lysenwi gan lawer fel "Wyn y Naid" oherwydd ei allu i benio, gwnaeth Davies dros 550 o ymddangosiadau yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr ar ôl dechrau ei yrfa uwch yn Locomotive Llanberis a'i glwb tref enedigol, Tref Caernarfon.
“Mae meddyliau pawb yn y Gymdeithas Bêl-droed gyda theulu a ffrindiau Wyn Davies yn ystod yr amser anodd hwn.”
Llun: CBDC