Arestio dyn ar ôl chwilio ceir i mewn ac allan o Fangor
Mae dyn wedi cael ei arestio wrth i'r heddlu gau ffyrdd i mewn i Fangor er mwyn chwilio ceir ddydd Mercher.
Cafodd Jerry Berry, 39 oed, ei arestio ar Stryd Fawr Bangor ddydd Mercher ar amheuaeth o sawl trosedd yn ymwneud â byrgleriaeth a lladrata.
Roedd “nifer sylweddol” o swyddogion yr heddlu yn bresennol yn y ddinas yng Ngwynedd ddydd Mercher wrth chwilio am y dyn meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Fel rhan o’r chwilio roedd Heddlu’r Gogledd yn archwilio pob un cerbyd oedd yn mynd i mewn ac allan o’r ddinas am gyfnod yn ystod y dydd.
Daw ar ôl i’r llu fod yn dilyn Mr Berry yn ystod y dydd.
Dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens o Heddlu’r Gogledd ei fod yn “diolchgar” i’r cyhoedd am eu hamynedd ddydd Mercher.
“Rwy’n deall y byddai presenoldeb nifer fawr o swyddogion yr heddlu wedi achosi pryder i drigolion," meddai.
“Ond hoffwn roi sicrwydd i’r gymuned bod hyn wedi arwain at arestiad Berry.”