Athletwr Ironman Abertawe wedi marw ar ôl cystadlu yn y ras

Marina Abertawe

Mae athletwr wedi marw ar ôl cystadlu yn ras Ironman 70.3 Abertawe. 

Dywedodd y trefnwyr bod yr athletwr wedi "mynd i drafferthion" wrth nofio yn y ras ddydd Sul a’i fod wedi derbyn gofal meddygol ar unwaith.

Aethpwyd a’r athletwr i'r ysbyty, ond fe fuon nhw farw ddydd Mercher, meddai’r trefnwyr. Nid oes unrhyw fanylion pellach am yr unigolyn wedi eu cyhoeddi.

Mewn datganiad dywedodd y trefnwyr: "Gyda chalon drom yr ydym yn cadarnhau marwolaeth athletwr a gystadlodd yn nhriathalon IRONMAN 70.3 Abertawe dros y penwythnos.

"Tua hanner ffordd i mewn i ran nofio'r ras, sylwodd personél diogelwch nofio bod yr athletwr wedi mynd i drafferthion ac fe wnaethon nhw ymateb.

"Derbyniodd yr athletwr ofal meddygol ar unwaith wrth gael ei gludo ar gwch i bwynt dynodedig yn yr harbwr, lle y cafodd driniaeth bellach.

"Yna cludwyd yr athletwr i'r ysbyty lle dderbynion triniaeth bellach, ond yn anffodus bu farw heddiw [ddydd Mercher].

“Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau'r athletwr.

"Byddwn yn parhau i gynnig ein cefnogaeth iddynt a'u cadw yn ein meddyliau wrth iddynt fynd trwy'r cyfnod heriol hwn.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r personél diogelwch nofio a'r ymatebwyr cyntaf a weithiodd yn gyflym i roi cymorth meddygol i'r athletwr."

Mae miloedd yn cymryd rhan yn y triathlon bob blwyddyn. 

Mae cystadleuwyr yn cychwyn wrth nofio 1.2 milltir (1.9km), cyn wynebu taith feicio 56 milltir (90km).

Yn olaf, mae'r athletwyr yn rhedeg 13.1 milltir (21.1km).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.