
Sir Gâr: Tad i ferch 2 oed â chlefyd prin 'ddim yn gwybod faint bydd hi ‘da ni'
Mae tad i ferch dwy oed o Sir Gâr sydd â chlefyd prin wedi dweud nad yw'n “gwybod faint bydd hi ‘da ni”.
Ym mis Ebrill eleni, fe aeth rhieni Eira Lewis, Phil a Rebecca, â hi i’r ysbyty gyda thymheredd o 41.6 gradd.
Fe ddirywiodd cyflwr Eira dros y diwrnodau canlynol a dywedodd Phil Lewis wrth Newyddion S4C "doedd dim y galle’r doctoriaid wneud”.
Cafodd Eira ddiagnosis o glefyd prin acute necrotising encephalitis (ANE).
Mae ANE yn glefyd niwrolegol prin, difrifol, sy'n digwydd ar ôl haint gan firws, y ffliw yn fwyaf cyffredin, ac yn arwain at lid a difrod i feinwe'r ymennydd.
Roedd cyflwr Eira mor wael fel bod y doctoriaid wedi paratoi tystysgrif marwolaeth iddi ag aed â hi i hosbis plant Tŷ Hafan ar gyfer beth roedd y teulu yn tybio fyddai ei diwrnodau olaf.
Dywedodd Phil, sydd o Rydaman: “O'dd y doctoriaid yn yr ysbyty ym mis Ebrill wedi dweud wrtho ni bod dim y gallen nhw neud drosti a bydde nhw’n dod nôl mewn chwarter awr a disgwyl bod hi ddim gyda ni.”
Er mawr syndod i’r arbenigwyr meddygol mae Eira wedi goroesi ond mae’n rhaid cadw golwg manwl arni drwy’r amser.

“Ni ddim yn gwbod faint bydd hi ‘da ni na beth bydd hi ishe yn tyfu lan," meddai Phil.
"Ni wedi cael cwpwl o ddiwrnodau bishi yn ddiweddar a mae Eira yn gwd.
“Mae’n dechrau dweud geiriau nawr a neud yn oce yn ei hunain ar y foment.
Ychwanegodd: “Mae ishe tiwb arni i gael llath a meddyginiaeth a phethe felna ond mae wedi dechre tynnu hwnna mas so mae’n rhaid cael rhywun i ddod mas i ddodi fe nôl mewn neu os ydy ar ôl 5 y nos mae’n rhaid i ni fynd lawr i Ysbyty Glangwili dwy neu dait gwaith yr wythnos ar hyn o bryd.
“Mae wedi dod yn well ond mae’n rhaid cadw llygaid arni pob munud mae hi lan. Pan mae’n cysgu mae’n oce ond rhaid gwylio pob eiliad pan mae ar ddihun.
“Bydd Eira’n dri oed ym mis Hydref a mae gyda ni Angharad sy’n un.
“Aethon ni nôl i Tŷ Hafan am respite yn ddiweddar ac rodd pawb methu credu bod hi wedi newid shwd gymaint. Mae’n cael physio pob pythefnos.”
Cefnogaeth
Mae’r gymuned yn yr ardal wedi tynnu at ei gilydd i drefnu llu o weithgareddau i gefnogi’r teulu.
Dywedodd Phil: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd i ni allu prosesu popeth. Mae shwd gymaint o amser yn mynd at Eira a neud siwr bod hi’n iawn a chyffyrddus. Ac wrth gwrs mae Angharad yn y mix hefyd.
“Mae lot o bobl ddim yn gallu deall pa mor flinedig i ni trwy’r amser, mae’n mentally draining yn ogystal â bod yn ffisegol hefyd.
“Mae lot o bobol ni ddim yn nabod wedi cynnig helpu ni - pobl s'y ddim yn gwbod ni na Eira.
“Mae’n byd da pan i chi’n gweld gymaint o bobl sydd ishe helpu, smo ni wedi gofyn am ddim yn ein bywydau so i gael shwd gymaint o bobol yn bodlon helpu mae’n anhygoel rili.
“Sdim targets gyda ni rili. Mae popeth yn helpu ni i edrych ar ôl Eira.
“Mae Becca a fi wedi gorfod rhoi lan gwaith.
“Ni ddim yn gwbod faint bydd hi ‘da ni na beth bydd hi ishe yn tyfu lan."

Mae Vips Parekh o Swyddfa Bost Capel Hendre wedi trefnu gêm griced yn Rhydaman ddydd Sul yn erbyn tafarn Pen y Brenin yn y pentref.
“Eira yw'r prif reswm. Mae hi'n brwydro trwy gyflwr y mae hyd yn oed meddygon y GIG yn ddryslyd amdano," meddai Vips wrth Newyddion S4C.
“Mae hi'n dal gyda ni, bob dydd mae hi'n gwella a gyda'n cefnogaeth ni a bendithion pawb, bydd hi'n parhau i wella ac yn mynd yn ôl i fod yn blentyn bach hapus yn rhedeg o gwmpas.
“Smo ni wedi gosod targed ac mae pob rhodd yn cael ei gwerthfawrogi, mawr neu fach, ond y mwyaf y gallwn ei godi, y mwyaf fydd yn mynd tuag at ei thriniaeth.
“Mae elusennau wedi camu i mewn i roi rhywfaint o ffisiotherapi i Eira a gallwn wneud ein rhan a chefnogi'r driniaeth yna.
“Ni ishe codi ymwbyddiaeth a mwy o gefnogaeth i Eira a fydd yn cynhyrchu mwy o roddion a fydd yn mynd tuag at y teulu i'w cefnogi gyda'i thriniaeth.”