Bachgen 12 oed wedi marw ar ôl cwympo mewn parc chwarae 

Parc cgwarae yn Winsford

Mae bachgen 12 oed wedi marw ar ôl iddo gwympo oddi ar offer mewn parc yn Sir Gaer.

Fe syrthiodd y plentyn yn y parc yn nhref Winsford ddydd Gwener.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ei drin ond bu farw yn y fan a'r lle, meddai’r heddlu.

Dywedodd y llu fod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y "digwyddiad trasig iawn" i gysylltu.

Dywedodd y Ditectif Rhingyll John Rhodes: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau'r bachgen a fu farw yn y fan a'r lle, yn anffodus.

"Fel rhan o'n hymchwiliad, rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn ardal Maes Hamdden Wharton neu o'i gwmpas tua'r adeg ac a welodd unrhyw beth a allai ein cynorthwyo yn ein hymholiadau i gysylltu.

"Ar hyn o bryd, hoffwn hefyd ofyn i'r cyhoedd beidio dyfalu, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, gan fod hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad parhaus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.