
Her seiclo i godi meinciau er cof am gyn-chwaraewyr Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
Mae aelod o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd wedi cwblhau her seiclo er mwyn codi arian ar gyfer meinciau i gofio cyn chwaraewyr "sydd ddim gyda ni bellach".
Penderfynodd Neil Cole o Gastell-nedd seiclo'r 122 milltir o gartref y clwb ar gaeau Pontcanna i Gei Newydd yng Ngheredigion.
Mae wedi codi £2,500 ac yn gobeithio gallu codi dwy fainc ger y caeau er mwyn cofio am gyn-chwaraewyr oedd yn ffrindiau agos iddo.
"Mae'n gyfle i ni godi arian ar gyfer meinciau i rai sydd ddim gyda ni bellach," meddai.
"Rhai oedd yn ffrindiau agos iawn i mi yn ystod fy nghyfnod gyda'r clwb.
"Gallwn ni eistedd ar y meinciau, gwylio'r gemau a chofio'r rhai sydd ddim gyda ni bellach gyda chwrw bach.
"Dwi wedi bod trwy uffern ar y beic, un o'r dyddiau anoddaf erioed.
"Ond mae hyn i gyd ar gyfer achos da."

Dechreuodd Neil y daith o gaeau Pontcanna, ac fe deithiodd i Gei Newydd mewn dau ddiwrnod.
Seiclodd i gartref ei rieni yng Nghastell-nedd ar y diwrnod cyntaf, cyn cwblhau'r daith ar yr ail ddiwrnod.
Disgrifiodd Eurof James, cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd Neil Cole fel "arwr" sydd wedi gwasanaethu llawer dros y clwb ar hyd y blynyddoedd.
“Syniad Neil oedd o. Ma’n arwr y clwb ac wedi bod wrthi am bron i 40 mlynedd erbyn hyn," meddai.
“Dyma daith beic olaf Neil dros y clwb. Ond mae’n gwneud gymaint o waith dros y clwb gyda’r menywod, yr ieuenctid a rheolwr yr ail dîm felly mae cael rhywun fel'na yn y clwb yn ddiolch yn anhygoel.
“Mae’n un o is-gadeiryddion y clwb ac yn amlwg wedi colli ffrind agos yn ddiweddar oedd arfer chwarae i’r clwb.
“Byddai cael mainc tu ôl i’r cae lawr yn Pontcanna yn gyfle i bobl hel meddyliau, rhannu atgofion a chael sgwrs am bob dim.
“Ma' Neil wedi casglu cymaint o arian yn enw clwb dros y blynyddoedd a oedd hwn yn her bersonol roedd o isho neud."

'Teulu mawr'
Ychwanegodd Eurof y bydd y clwb yn trafod gyda'r cyngor i gael y meinciau yn eu lle, a bod englynion am gael eu gosod arnynt hefyd.
“Mae ein cyn-chwaraewr Dafydd Emyr wedi sgwennu englyn neu ddwy i goffhau’r holl bobl sydd wedi gwisgo crys y clwb dros y blynyddoedd a chadw enw da y clwb wrth i ni fynd o nerth i nerth.
“Fel clwb ‘da ni’n gymuned sy’n dod a pobl at ei gilydd ar draws Cymru. O Bwllheli o Ben Llŷn, o Llandeilo o’r canolbarth i’r gogledd ac o bedwar ban y byd o dweud y gwir.
“Mae’n un teulu mawr o ddynion a menywod sy’n chwarae i’r clwb a hefyd 500 o blant sydd yn chwarae erbyn hyn.
“Felly ma' cael rhyw ganolbwynt i ddathlu’r holl ddynion a menywod sydd wedi chwarae i’r clwb yn gyfle da i’w cofio."