Cymru'n brwydro'n galed wrth golli 27-17 yn erbyn Iwerddon
Un cyfle sy’n weddill i Gymru sicrhau buddugoliaeth yn y Chwe Gwlad ar ôl iddyn nhw golli unwaith eto a hynny o 27-17 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn nos Wener.
Bydd Cymru yn croesawu'r Eidal i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn nesaf yn y gobaith o sicrhau buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth ers ennill yn Rhufain yn 2023.
Fe ddechreuodd y gêm yn Nulyn mewn modd cyfarwydd i’r Cymry wrth i’r asgellwr Jacob Stockdale groesi ar gyfer cais cyntaf y Gwyddelod ar ôl chwe munud yn unig.
Roedd yn ymddangos bod Iwerddon wedi sgorio eto bedair munud yn unig yn ddiweddarach drwy Jack Conan, ond fe benderfynodd y dyfarnwr teledu bod Tom O'Toole wedi bwrw'r bêl ymlaen cyn hynny.
Ar ôl dechrau siomedig, roedd yn berfformiad llawer mwy calonogol gan Gymru. Fe sgoriodd Cymru eu pwyntiau cyntaf ar ôl 17 munud drwy gic gosb gan Dan Edwards.
Fe enillodd Cymru'r bêl yn ôl yn eu 22 eu hunain, cyn ennill cic gosb arall ar ôl cic grefftus gan Ellis Mee.
Fe enillodd Cymru gyfres o giciau cosb, ond fe orffennodd eu hymgais i groesi’r gwyngalch wrth i James Ryan a Stuart McCloskey ddal y prop Rhys Carré i fyny dros y llinell.
Er gwaethaf ymdrechion Cymru, roedd hi'n ymddangos y byddai'r hanner yn gorffen yn yr un modd ag y dechreuodd, gyda’r maswr Jack Crowley yn croesi ar 37 munud. Methodd â throsi ei gais ei hun.
Ond o'r ailddechrau fe gollodd asgellwr Iwerddon, Robert Baloucoune, y bêl yn yr awyr, ac fe garlamodd Rhys Carré fel tarw o 30 metr allan am ei drydydd cais mewn tair gêm.
Fe orffennodd yr hanner cyntaf gydag Iwerddon dim ond dau bwynt ar y blaen, 12-10.
Yr ail hanner
Yn anffodus i Gymru, fe ddechreuodd yr ail hanner yn yr un modd â'r cyntaf, wrth i gic gosb yn eu herbyn gynnig cyfle i Jack Conan sgorio, er gwaethaf rhagor o wirio gan y dyfarnwr teledu.
Bu bron i Gymru daro 'nôl wedi bylchiad gan Josh Adams, ond fe aeth ei bas i James Botham oddi ar y cae.
Fe enillodd Gymru gic gosb o’r sgrym 20 metr o linell gais Iwerddon ac wedi sawl cymal o ymosod ffyrnig fe lwyddodd James Botham i naddu ei ffordd dros y gwyngalch.
Ond unwaith eto wedi’r holl waith caled gan Gymru fe darodd Iwerddon yn ol yn syth drwy Jamie Osborne, wedi i’r bel fynd drwy ddwylo Stuart McCloskey, Jack Crowley a Jacob Stockdale.
Fe gafodd Tomos Williams ei yrru i’r gell gosb. Methodd Jack Crowley gyda’r trosiad.
Colli oedd hanes Cymru unwaith eto ond roedd rhoi gêm gystadleuol i Iwerddon yn Stadiwm Aviva yn awgrymu eu bod nhw ar y trywydd iawn cyn yr ornest dyngedfennol yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.