Arestio bachgen 17 oed ar ôl i ysgol ym Mhowys dderbyn bygythiadau
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â bygythiadau oedd wedi eu derbyn gan Ysgol Maesydderwen ym Mhowys.
Roedd yr ysgol yn Ystradgynlais dan glo am gyfnod ddydd Llun ar gais yr heddlu ar ôl derbyn bygythiad dros y ffôn.
Cadarnhaodd y llu bryd hynny nad oedd neb wedi’i anafu yn yr ysgol, a bod disgyblion ac athrawon yn ddiogel ac yn aros ar y safle am y tro.
Fe dderbyniodd yr ysgol ail fygythiad yn ddiweddarach dros e-bost ddydd Llun ac roedd hi ar gau ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Gwener bod bachgen o Bontardawe wedi’i arestio ar ôl ymchwiliad.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o anfon cyfathrebiadau digidol yn cynnwys bygythiadau o farwolaeth neu niwed difrifol, gyda’r bwriad o achosi ofn.
Mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Uwch-arolygydd Powys, Gareth Grant: “Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r rhieni, yr athrawon, y staff a’r gymuned ehangach am y gefnogaeth a’r amynedd rydych wedi’u dangos tra ein bod ni wedi cynnal ein hymholiadau mewn perthynas â’r digwyddiad hwn.
“Rwy’n deall y bydd hyn wedi cael effaith ddofn.
“Bydd ein swyddogion cymdogaeth yn parhau i fod yn bresennol yn lleol er mwyn rhoi tawelwch meddwl.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n hysgolion uwchradd lleol a’n partneriaid i sicrhau bod ein cymuned leol yn cael cefnogaeth.”