Babi nad oedd ei fam wedi'i brechu yn marw o'r pas

Brechlyn y pas

Mae asiantaeth diogelwch iechyd y DU (UKHSA) wedi dweud bod babi wedi marw o’r pas (whooping cough) yn ddiweddar.

Nid oedd mam y babi wedi’i brechu yn erbyn yr haint yn ystod ei beichogrwydd a bu farw'r babi, y credir ei fod o dan un oed, rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, yn ôl UKHSA.

Dyma’r achos angheuol cyntaf o’r haint yn y DU eleni.

Yn ôl UKHSA, bu farw 33 o fabanod o'r clefyd rhwng 2013 a mis Mehefin 2025.

Gan fod brechiadau'n cael eu cynnig yn 12 mis oed, roeddent i gyd yn rhy ifanc i gael eu himiwneiddio, gan ddibynnu yn lle ar eu mamau a'r rhai o'u cwmpas i gael imiwnedd.

Cyflwynwyd brechiadau ar gyfer y pas, i fenywod beichiog ym mis Hydref 2012.

O'r 33 o fabanod a fu farw rhwng 2013 a 2025, roedd gan 27 o'r mamau na chawsant eu brechu yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys yr un eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.