Danny Ward i golli'r gêm yn erbyn Kazakhstan ar ôl dioddef anaf i'w ben

Llun: CPD Wrecsam
Danny Ward

Bydd golwr Cymru Danny Ward yn colli'r gêm yn erbyn Kazakhstan ar ôl dioddef anaf i'w ben ddydd Sadwrn.

Dioddefodd Ward gyfergyd yn ystod buddugoliaeth Wrecsam yn erbyn Millwall.

Roedd y golwr 33 oed wedi glanio'n lletchwith ar ôl brwydro i ennill y bêl yn yr awyr yn ystod amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm.

Derbyniodd driniaeth ar y cae cyn gorfod gadael y maes ar stretsier a derbyn ocsigen trwy fwgwd.

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson bod Ward yn anymwybodol ac wedi dioddef anaf i'w benelin. Cafodd ei gludo i'r ysbyty.

"Dyw e ddim yn edrych yn addawol pan chi'n gweld chwaraewr yn gadael y cae fel'na," meddai.

"Yr unig beth allwn ni ei wneud yw croesi ein bysedd.

"Ond mae meddyg y clwb wedi dweud wrtha i fod pethau ddim yn edrych yn dda, felly pan mae'r meddyg yn dweud hynny chi'n ofni'r gwaethaf.

"Dwi'n meddwl bod y cyfergyd ar ei ben ei hunain mynd i olygu bydd Danny ddim yn chwarae am gyfnod."

Ward yw un o dri golwr sydd wedi eu dewis yng ngharfan Cymru i wynebu Kazakhstan yn Astana ar 4 Medi, cyn wynebu Canada mewn gêm gyfeillgar yn Abertawe ar 9 Medi.

Karl Darlow o Leeds United ac Adam Davies o Sheffield United sydd hefyd yn y garfan.

Ond Ward yw'r unig golwr sydd yn chwarae'n gyson i'w glwb, gyda'r ddau arall yn eistedd ar y fainc.

Mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, gyda Gogledd Macedonia ar y brig a Gwlad Belg yn y trydydd safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.