Lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl i fenyw ddisgyn o floc o fflatiau

Llun: Google
fflatiau Cuckmere Lane

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi i fenyw farw ar ôl disgyn o floc o fflatiau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Cuckmere Lane yn Southampton am 14:23 ddydd Iau wedi adroddiadau bod menyw wedi disgyn o floc o fflatiau.

Dywedodd Heddlu Sir Hampshire ac Ynys Wyth bod y fenyw 25 wedi dioddef anafiadau sylweddol.

Bu farw yn yr ysbyty ddydd Gwener.

Mae'r llu yn dweud eu bod yn edrych am ddyn maen nhw'n credu oedd yn yr eiddo pan oedd y fenyw wedi disgyn.

Ychwanegodd y llu bod teulu'r fenyw wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau yn Cuckmere Lane ddydd Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.