
Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: 'Dw i erioed wedi cael gwers Gymraeg'
Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: 'Dw i erioed wedi cael gwers Gymraeg'
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi enw’r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Y rhai a ddaeth i’r brig yw Alison Cairns o Lannerchymedd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Yn ystod yr wythnos bydd Newyddion S4C yn cwrdd â’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Ar ôl siarad â Mr Trevarthen ddydd Llun, heddiw bydd Newyddion S4C yn holi Alison Cairns o Ynys Môn.
Yn wreiddiol o’r Alban, mae Alison Cairns wedi dysgu’r Gymraeg heb iddi erioed cael gwers ffurfiol.
Ond mae Ms Cairns bellach yn byw ei bywyd yn Gymraeg, a hynny gyda’i saith o blant a’i gwr, Siôn.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi byth ‘di gwneud gwers Cymraeg, dwi ‘di dysgu gan wylio S4C ar y teledu gyda subtitles i codi geiriau.
“Clywed pobl yn siarad Cymraeg, dwi ‘di gwrando ar lot o ffermwyr achos dwi’n mynd i gneifio gyda Sion yn yr haf, so clywed ar lot o bobl yn siarad Cymraeg.
“Mae’r plant yn mynd i’r ysgol a dod adref gyda gwaith cartref a llyfrau darllen a fel ‘na dwi ‘di dysgu siarad Cymraeg.”

Gofalu
Wrth gael ei magu yn yr Alban, roedd Ms Cairns wedi’i digalonni gan y diffyg adnoddau ar gael i bobl ddysgu'r iaith Aeleg.
Ond ar ôl symud i Gymru roedd hi’n benderfynol o ddysgu’r iaith er mwyn gallu cyfathrebu gydag unigolion yn ei chymuned ac o fewn ei swydd.
Mae Ms Cairns yn gweithio yn y byd gofal ac mae hynny wedi gwneud iddi sylweddoli ar ba mor werthfawr yw’r iaith wrth helpu ei chleifion, meddai.
“Fel gofalwr, dwi ‘di bod gofalwr yn y cymuned hefyd o’r blaen, a dwi jyst yn meddwl mae’n pwysig," meddai.
“Especially pan ti’n gweithio gyda hen pobol neu pobol ifanc, mae nhw yn pobol Cymraeg ac i fi mae’n bwysig bod fi’n medru siarad gyda nhw yn eu hiaith gynta’ nhw.
“Dwi'n meddwl mae nhw’n trystio chi ychydig bach mwy a mae’n hawsach iddyn nhw siarad efo chdi os mae problemau neu os mae nhw eisiau cael sgwrs efo chdi.
“Mae yn bwysig i fi i fedru mynd mewn i dŷ pobol a medru siarad yr iaith Cymraeg efo nhw.”
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2023 yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher 9 Awst.
Fe fydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 tra bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r arian i gyd yn cael ei ddarparu’n rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.