
Datgelu'r pedwar sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2023
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r pedwar sydd ar restr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Y rhai a ddaeth i’r brig yw Alison Cairns o Lannerchymedd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Yn ystod yr wythnos bydd Newyddion S4C yn cwrdd â’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, gan ddechrau gyda Tom Trevarthen.
Yn wreiddiol o Hartford yn Lloegr, fe symudodd Mr Trevarthen i Gymru yn ddeunaw oed er mwyn astudio yn y brifysgol.
Dywedodd ei fod wedi mynd o fod yn "ignorant iawn" o'r Gymraeg i sefyllfa ble'r oedd yr iaith bellach yn "rhan o fy enaid".
Ar ôl treulio ei blentyndod y tu allan i Gymru, roedd wedi synnu fod cynifer o bobl yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu bywyd pob dydd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae’n bach yn embarassing rili, pan nes i gyrraedd yn y brifysgol, ges i syndod rili ‘odd pobl yn siarad yr iaith.
“Fel lot o Saeson o’n i’n ignorant iawn am yr iaith Gymraeg.
“Sai’n siŵr os ‘nes i wir hyd yn oed gwybod ‘odd y iaith Gymraeg bodoli, ges i syndod enfawr i glywed pobl ifanc, pobl deunaw fel oeddwn i, yn siarad yr iaith yn naturiol.”
Fe gafodd ei enwebu gan ei ffrind, David.

‘Mwy ‘na chyfathrebu’
Mae Mr Trevarthen, sy’n athro Saesneg yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron yn teimlo bod anwybodaeth am yr iaith yn ei famwlad ac o ganlyniad, penderfynodd ddysgu’r Gymraeg y llynedd.
Mae Mr Trevarthen wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth am yr iaith ac yn astudio am radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn ymchwilio i addysg yng Nghymru.
“Does neb yn Lloegr yn siarad am y Gymraeg, am Gymru hyd yn oed,” meddai.
“Naeth e cymryd lot o amser i fi gyrraedd at y pwynt i ‘neud y penderfyniad, reit, dwi mynd i ddysgu Cymraeg.”
Ond ar ôl treulio'r rhan fwyaf o’i fywyd yng Nghymru yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Saesneg, fe aeth ati gyda’i ffrindiau a’i gyd-weithwyr i newid yr iaith wrth gyfathrebu â'i gilydd.
Erbyn hyn, mae’n byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn Gymraeg ac yn teimlo bod yr iaith wedi’i sefydlu fel rhan o’i “enaid.”
Dywedodd: “Fi’n wrth fy modd yn siarad Cymraeg, dwi’n rili joio ‘neud e.
“Fi’n teimlo bod ffordd arall i mynegi fy hunan nawr. Mwy ‘na jyst cyfathrebu, mwy ‘na jyst gwaith, mwy ‘na jyst helpu yn y gwaith, mae o’n rhan o bywyd fi, fi’n cymdeithasu yn yr iaith.
“Fi’n teimlo bod mae’r iaith Cymraeg yn rhan o fi, yn rhywbeth yn yr enaid hyd yn oed.”
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2023 yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher 9 Awst.
Fe fydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 tra bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r arian i gyd yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.