Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu 40 mlynedd

Spencer Harris

Dysgwr y Flwyddyn yw un o brif seremonïau’r wythnos, ac mae’n gyfle i Gymru ddathlu cyfraniad ac ymroddiad y rheini sy’n dysgu Cymraeg.

Ers sefydlu’r gystadleuaeth yn 1983, mae pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi’u clodfori, gydag amryw o enwau cyfarwydd ymhlith yr enillwyr.

Un ohonynt yw Spencer Harris o Goedpoeth ger Wrecsam, a enillodd yn 2001.

Mae’n gweithio fel uwch gyfarwyddwr i Kellogg’s yn Ewrop, ac yn is-lywydd anrhydeddus Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn 1995. Es i i ddosbarthiadau nos i ddechrau, ac yna es i ymlaen i wneud Lefel A yn y Gymraeg.

"Ro’n i’n gweithio shifftiau adeg hynny a doedd hi ddim yn hawdd ffitio’r gwersi i mewn.

"Roedd diwrnod y gystadleuaeth yn arbennig, doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl. Rwy wedi cystadlu dros Gymru mewn tennis bwrdd ond roedd ennill Dysgwr y Flwyddyn yr un mor bwysig i mi,” meddai.

Ers hynny mae Spencer wedi parhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob achlysur posibl, ac mae ef a’i wraig wedi magu eu tri o blant, Emyr, Megan a Mali, i siarad yr iaith a chael addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd unrhyw un sydd wedi gwylio’r rhaglen ddogfen ‘Welcome to Wrexham’ wedi gweld Spencer yn treulio ychydig o amser gyda chydberchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ei gartref.

“Fel cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, rydw i wedi gwneud llawer o gyfweliadau teledu a radio yn Gymraeg dros yr 20 mlynedd diwethaf.

"A phan wnaethon ni werthu’r clwb i Ryan (Reynolds) a Rob (McElhenney) fe wnes i’n siŵr eu bod nhw’n deall pwysigrwydd yr iaith o’r diwrnod cyntaf.

Image
Joe Healy
Joe Healy.

"Maen nhw bellach wedi denu llawer o sylw i Gymru a’r Gymraeg,” meddai.

Martyn Croydon yw cadeirydd pwyllgor Maes D eleni.

Yn enedigol o Kidderminster, dywedodd ei fod am fyw yng Nghymru ar ôl bod ar wyliau teuluol, a bod dysgu’r Gymraeg yn hanfodol i fod yn rhan o’r gymuned. Mae’n gweithio fel tiwtor Cymraeg a rheolwr gwefan sy’n hyrwyddo Pen Llŷn.

Dechreuodd ddysgu’r iaith gan ddefnyddio llyfrau a thrwy fynd ar-lein, ond ar ôl symud i Gymru cofrestrodd mewn gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.

“Mae’n wallgof meddwl y gallai rhywun fel fi ddod i fyw yng Nghymru ac ennill Dysgwr y Flwyddyn,” meddai.

“Cymerodd chwe blynedd i mi ddysgu Cymraeg, ac ro’n i’n meddwl, ‘Wna i fyth wneud hyn’, ond mae’r cyfan wedi bod yn werth chweil.”

Yr enillydd cyntaf

Shirley Flower o Drelawnyd oedd enillydd y gystadleuaeth gyntaf. Dechreuodd y fam i bedwar ddysgu Cymraeg er mwyn deall beth roedd ei phlant wedi bod yn ei wneud yn yr ysgol.

Erbyn ei gwobrwyo yn yr Eisteddfod, roedd yn ei chael hi’n anodd meddwl yn Saesneg wrth siarad am bynciau Cymraeg.

Yn wreiddiol o ardal Crewe roedd hi ymhlith 54 o ddysgwyr fentrodd i’r gystadleuaeth.

Pan ddychwelodd yr Eisteddfod i Fôn yn 1999, enillydd y gystadleuaeth oedd Alison Layland o ardal Croesoswallt.

Cafodd ei magu yn Lloegr, a byw mewn gwahanol rannau o’r wlad cyn symud i ganolbarth Cymru yn 1997 gyda’i theulu.

Astudiodd Eingl-Sacsoneg, Norseg a Cheltaidd ac Ieithoedd Modern a Chanoloesol ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ar ôl cyfnodau fel gyrrwr tacsi a Syrfëwr Siartredig daeth yn gyfieithydd llawrydd.

Mae wedi cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr ac asiantaethau amrywiol o Almaeneg, Ffrangeg a Chymraeg, ac ar ôl ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn aeth ymlaen i ennill gwobr am stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol 2002.

Image
emma chappell
Emma Chappell.

Chwe blynedd yn ôl ym Modedern, Emma Chappell oedd Dysgwr y Flwyddyn.

Dechreuodd Emma, yn wreiddiol o Gaergrawnt ond erbyn 2017 yn byw yn Neiniolen, ddysgu’r iaith mewn dosbarthiadau nos ar ôl cyfarfod â’i phartner Arwel a chyn symud i Wynedd.

Dywedodd ei bod yn deall bod yr iaith a hunaniaeth genedlaethol yn bwysig i Arwel, felly penderfynodd ddysgu’r Gymraeg.

Daeth Emma, oedd yn byw yn Warrington ar y pryd, o hyd i ddosbarth nos yn y dref cyn symud i Gymru a chofrestru’n syth mewn dosbarth Cymraeg. “Mae esbonio’r manteision o ddysgu Cymraeg i bobl yn mynd yn bell, yn enwedig i’r rhai sydd â phlant, mae wir wedi newid fy mywyd ac wedi bod o fudd enfawr i’r teulu,” meddai.

Dysgwr y Flwyddyn y llynedd yng Ngheredigion oedd Joe Healy, a hynny’n dilyn cystadleuaeth o safon uchel. Un o Wimbledon yw Joe; daeth i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a phenderfynu aros yno.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac erbyn hyn mae’n siarad Cymraeg yn gwbl hyderus, gan ei defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gwaith.

“Fel rhywun a symudodd i Gymru o Lundain a byw yng Nghymru am rai blynyddoedd cyn dechrau dysgu Cymraeg, dwi wedi clywed – ac mae’n rhaid i mi ddweud, dwi wedi credu, yn y gorffennol – llawer o fythau am y Gymraeg.

"Mae’r mythau hyn yn beryglus i ddyfodol yr iaith a’n diwylliant. Maen nhw’n gallu gwahanu ein cymunedau a gweithredu fel rhwystrau i ddarparddysgwyr.

"Mae’n bwysig wynebu’r mythau hyn, a gwybod sut i ymdopi ag agweddau negyddol tuag at yr iaith,” meddai Joe.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.